Dweud Eich Dweud
Dweud Eich Dweud!

Dweud Eich Dweud!

Rydyn ni eisiau gweld eich ochr greadigol!

Yn galw ar bawb 11-25 oed, Rydym yn chwilio am straeon, podlediadau, blogiau, erthyglau, barddoniaeth, vlogs, posteri, graffeg, ffotograffiaeth, celf, cerddoriaeth, ffilmiau! Cael eich cynnwys yn cael ei roi ar ein Blog!

Cymrwch ran drwy anfon e-bost atom yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.!

Diogelu
YPSafeguarding - Widget

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

CYS Web Banner Logo2

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i http://cardiffyouthservices.wales/cy/ a http://cardiffyouthservices.wales/.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd.  Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni fydd y testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr
  • ni allwch addasu uchder llinell na bwlch rhwng y testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin
  • nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw
  • mae’n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • ni allwch sgipio i'r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
  • mae terfyn ar ba mor bell y gallwch chwyddo'r map ar ein tudalen 'cysylltu â ni'

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltu â ni', ffoniwch ni neu e-bostiwch ni i gael cyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.  Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni clyw, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Dyma ein manylion cyswllt:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Rydym yn gweithio ar sicrhau bod ein gwefan mor hygyrch â phosibl.  Os byddwch yn sylwi ar unrhyw fan sydd angen ei wella yn eich barn chi, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Baich anghymesur

Llywio a chael gafael ar wybodaeth

Nid oes modd sgipio'r cynnwys sy’n ailadrodd ym mhrif bennawd y dudalen (er enghraifft, opsiwn 'sgipio i’r prif gynnwys').

Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anos gweld y cynnwys.

Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.

Offer a thrafodion rhyngweithiol

Mae’n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni rhyngweithiol gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig Er enghraifft, oherwydd nad oes tagiau ‘label’ ar rai rheolaethau ar ffurflenni.

Mae ein ffurflenni'n cael eu hadeiladu a'u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti a'u gwneud i edrych fel ein gwefan.

Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a chael gafael ar wybodaeth, a chydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny'n awr yn  faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd.  Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd y contract cyflenwi yn barod i’w adnewyddu.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF ac eraill

Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.  Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sydd â gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni ar ffurf Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw:

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod   fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Ein nod yw diweddaru a gwella'r wefan hon yn gyson, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am safonau a chanllawiau hygyrchedd.

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw fannau o'n gwefan nad ydynt yn bodloni canllawiau mynediad, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Dweud Eich Dweud!

Dweud Eich Dweud!

Rydyn ni eisiau gweld eich ochr greadigol!

Yn galw ar bawb 11-25 oed, Rydym yn chwilio am straeon, podlediadau, blogiau, erthyglau, barddoniaeth, vlogs, posteri, graffeg, ffotograffiaeth, celf, cerddoriaeth, ffilmiau! Cael eich cynnwys yn cael ei roi ar ein Blog!

Cymrwch ran drwy anfon e-bost atom yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.!

YPSafeguarding - Widget

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

Cysylltwch â Ni:

Ffôn: 07929651466
E-bost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Ei’n Cyfryngau Cymdeithasol:

FacebookBlue InstaPink TwitterBlue YoutubePink

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Ffôn: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk

We use cookies to give you the best possible experience.

By continuing to use our website we assume you agree with our cookie policy.