Digidol

AMDANO NI
Mae ein tîm gwaith ieuenctid digidol penigamp yn gweithio gyda phobl ifanc ar draws y ddinas ar-lein ac wyneb yn wyneb i gynnig mannau diogel i bobl ifanc. Mae ein gwaith yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau digidol a llythrennedd, cael gafael ar gymorth, edrych ar gyfleoedd gyrfa a chwrdd â phobl newydd.
Mae'r gweithgareddau a gynigiwn yn cynnwys creu cynnwys, celf ddigidol, creu podlediadau, Esports, ffilmio technoleg drochol a chymaint mwy. Gallwch weld arlwy ein cwricwlwm yma!
Mae ein clybiau ieuenctid ar-lein yn lle diogel i bobl ifanc 13+ oed sy'n rhedeg ar y platfform Discord. Mae ein tri gweinydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg, pobl ifanc 13-17 a 16-25 oed yn cynnig cyfleoedd creadigol yn ogystal â mynediad at gyfleoedd ehangach. Mae angen cofrestru trwy'r ddolen Microsoft Forms hon.
Mae'r tîm gwaith ieuenctid digidol hefyd yn gallu cynnig gwasanaethau i wasanaeth ehangach ar gyfer gweithdai uniongyrchol i bobl ifanc neu hyfforddiant digidol i weithwyr proffesiynol. Os hoffech drafod costau ac archebion, cysylltwch â ni dayle.luce@cardiff.gov.uk
Cardiff Youth Service supports young people in gaining qualifications through positive engagement. As an Agored Cymru centre, we offer opportunities for lifelong learning, whether in education, employment, or seeking a job. Our expert staff provide tailored one-on-one support and guidance throughout the learning journey, from registration to qualification achievement. With a focus on the evolving needs of the Welsh labour market and government priorities, our Agored Cymru qualifications are respected by employers, helping learners secure jobs or advance their careers and these Units and Qualifications can be found here.
Heb y gwasanaeth ieuenctid, mae'n debyg na fyddwn i'n gallu gwneud y rhan fwyaf o'r sgiliau rydw i wedi'u dysgu, fel siarad cyhoeddus, magu hyder, a chymaint mwy.
Crewyr Cynnwys Caerdydd
Lle diogel i bobl ifanc sydd eisiau dysgu sgiliau newydd a chwrdd ag eraill sy'n rhannu diddordeb mewn cynnwys amlgyfrwng i greu penodau o 'The Butetown Buzz'
Yn digwydd yn wythnosol ar ddydd Gwener 17:00-19:30 ar gyfer pobl ifanc 11-19 oed
Grassroots, Heol
Charles, 58 Heol Charles
cysylltwch â: Guy.evans@caerdydd.gov.uk
Rydym hefyd yn cynnig bwtcamp creu cynnwys blynyddol, sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r haf.
Clybiau ieuenctid ar-lein Discord
Mae clybiau ieuenctid ar-lein Discord yn ofod diogel i bobl ifanc gael cefnogaeth gan weithwyr ieuenctid, cwrdd â phobl ifanc newydd a manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd o sesiynau gemau ar-lein, gweithdai celf a theithiau a gweithgareddau wyneb yn wyneb. Mae angen cofrestru trwy'r ffurflen hon
Cynlluniau Cyfnewid ar gyfer Pobl Ifanc
Rydym wedi sefydlu perthynas gydag adran ddarlledu yn Ysgol Uwchradd Carlsbad sydd wedi datblygu profiadau cyfnewid sy’n newid bywydau i bobl ifanc o Gaerdydd
Allgymorth digidol
Mae ein Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio ar draws Canolfannau Ieuenctid a mannau cymunedol, yn cyflwyno gweithgareddau digidol yn cynnwys ffilmio, golygu, cynhyrchu rhithwir a chreu podlediadau.
You're always there. It really made my week spending that time with everyone. It made me feel... special? I think. So, again, thank you.

Manylion Cyswllt
Dayle Luce – dayle.luce@cardiff.gov.uk
Edurado Pereira – Eduardo.djissulepereira@cardiff.gov.uk
Guy Evans – Guy.Evans@cardiff.gov.uk