Darpariaeth Gynhwysol
AMDANOM NI
Ffurfiwyd darpariaethau cynhwysol ar gyfer pobl ifanc nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus mewn clwb ieuenctid mynediad agored. Mae darpariaethau cynhwysol yn rhoi lle diogel i bobl ifanc lle gallant ymlacio, cael hwyl, dysgu a chymdeithasu â phobl ifanc eraill y gallant uniaethu â nhw, cael pethau a phrofiadau yn gyffredin, teimlo'n gyfforddus gyda nhw a theimlo'n hyderus ac yn hamddenol gyda nhw. Mae clybiau ieuenctid mynediad agored yn croesawu pob person ifanc, ac maent yn cefnogi clybiau cynhwysol drwy gyfeirio pobl ifanc i’r darpariaethau hyn dim ond os ydynt yn teimlo ei bod yn briodol ac yn fwy buddiol i'r aelod ifanc fynychu clwb cynhwysol.
Clwb Ieuenctid Byddar Cŵl
Cardiff Deaf Cool Youth Club has been running since 2009 at Deaf Hub Wales based on 163 Newport Road, Roath, Cardiff CF24 1AG. The club runs weekly on Wednesdays 18:30-20:30. This is a partnership between Cardiff Youth Service and Deaf Hub Wales. The Deaf Cool Youth Club provides a safe space for deaf and hard of hearing young people, aged 11 to 25, to meet and socialise. The youth club has a strong focus on promoting ‘Deaf Identity’ and wellbeing. A number of activities have taken place including drumming, lantern making, cooking, pumpkin carving, word storm on a canvas and t-shirt dyeing. The youth club also delivers the Youth Achievement Award in partnership with Youth Cymru.


Mae’r Clwb Ieuenctid Byddar yn bwysig gan y byddai llawer o bobl ifanc fyddar yn aros adref yn ddigwmni. Rydym yn dysgu sut i wneud ffrindiau, sut i ymgysylltu, caiff hyder ei ddatblygu trwy gyfathrebu gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Os byddwch chi’n cynhyrfu, mae rhywun sydd wedi mynd drwy hyn yno i'ch cynghori chi. Rydych chi'n mynd adref ac rydych chi'n teimlo'n well. Mae gweld pobl fyddar eraill yn rhoi hyder
Clwb Ieuenctid Cynhwysol Trelái
Mae Clwb Ieuenctid Cynhwysol Trelái yn darparu amgylchedd diogel a chefnogol i bobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol ddod at ei gilydd a chael hwyl. Y prif ffocws yw rhyngweithio cadarnhaol a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel celf a chrefft, gemau cyfrifiadurol, coginio a rhaglenni sgiliau bywyd. Mae'r clwb yn agored i bobl ifanc 11-25 oed. Mae'r clwb hwn yn gweithredu rhwng 18:30 a 20:30pm ar nos Fercher yng Nghanolfan Ieuenctid Gogledd Trelái, Heol Pethybridge, CF5 4DP. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Josie.Downing@caerdydd.gov.uk
Mae’r Clwb Ieuenctid yn golygu llawer i mi gan ein bod ni i gyd yn cael gadael y tŷ a dod at ein gilydd i wneud ffrindiau sydd â materion tebyg gartref, rwyf wedi mwynhau'n bennaf pan fyddwn ni i gyd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
Clwb Ieuenctid Cynhwysol Cathays
Cyflwynir Clwb Ieuenctid Cynhwysol Cathays gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd yng Nghanolfan Gymunedol Cathays, ac mae'n agored i bob person ifanc 11-25 oed, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau neu namau.
Cyflwynir y clwb hwn gan Jim Price ac mae'n gweithredu rhwng 18:15 a 20:30pm ar nos Wener.
Mae cyfleusterau'r ganolfan yn cynnwys pwll, celf a chrefft, ystafell chwaraeon fawr a dwy stiwdio gerddoriaeth. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys cymdeithasu gyda ffrindiau, gemau rhyngweithiol, a gweithgareddau sgiliau bywyd fel siopa ar gyllideb, coginio a gweini bwyd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â jprice@caerdydd.gov.uk
Clwb Ieuenctid Gofalwyr Ifanc Caerdydd
Mae'r Clwb Ieuenctid Gofalwyr Ifanc yn glwb ieuenctid sefydledig i bobl ifanc 11-25 oed, sydd â chyfrifoldeb gofalu gartref. Mae'r clwb yn cynnig gofal seibiant i bobl ifanc a chyfle i gyfarfod, cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous llawn hwyl gyda phobl ifanc sydd â phrofiadau tebyg.
Roedd y clwb yno i mi drwy fy hwyliau gorau a gwaethaf. Roeddwn i'n gwybod y gallwn bob amser siarad â'r staff am fy mwriadau a’u bod wrth law i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnaf. Gwnaeth y clwb fy helpu i dynnu fy meddwl oddi ar bethau gartref a rhoi’r teimlad arferol o fywyd yn fy arddegau. Cefais gyfleoedd anhygoel fel Gwobr Arweinydd Ieuenctid Rotari a Dug Caeredin, Roedd y teithiau bob amser yn anhygoel ar gyfer seibiant a gwnes i ffrindiau anhygoel. Bydda i’n trysori fy atgofion gan y clwb gofalwyr ifanc ac yn gobeithio y bydd yn gwneud yr un peth i eraill ag y mae wedi'i wneud i mi
Dan arweiniad Jim Price, cefnogir y clwb ieuenctid hwn gan Glwb Rotari Dwyrain Caerdydd. Mae'r Clwb Rotari yn darparu cyllid ychwanegol hael, cyfleoedd hyfforddi a dau wirfoddolwr hynod ymroddedig, sy'n ffurfio tîm staff cefnogol a gofalgar. Mae'r clwb yn gweithredu rhwng 10:00 a 13:00 bob dydd Sadwrn yng Nghanolfan Ieuenctid Pafiliwn Butetown.
Mae pob sesiwn yn llawn gweithgareddau sy'n dal sylw'r bobl ifanc yn llwyr. Mae'r rhain yn cynnwys: pêl-osgoi, celf a chrefft, iechyd a lles, coginio, teithiau haf, ymweliadau preswyl yn Storey Arms a digwyddiadau cymdeithasol. Mae'r grŵp hefyd yn cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin.
Cysylltwch â Jprice@Cardiff.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth