LHDTC+
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig darpariaeth ieuenctid a chymorth pwrpasol i bobl ifanc sy'n uniaethu fel LHDTC+ neu sy'n gynghreiriaid. Gelwir y Ddarpariaeth Ieuenctid yn Gynghreiriaid Ymbarél ac mae'n lle diogel i bobl ifanc LHDTC+ 13-19 oed. Mae'r prosiect wedi'i gynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion unigryw pobl ifanc yn y gymuned LHDTC+, gan gynnig amrywiaeth o raglenni a gwasanaethau sy'n hyrwyddo cynhwysiant, lles ac ymrymuso. Yn ogystal, mae'r ddarpariaeth yn diwallu anghenion nifer uchel o bobl ifanc sydd hefyd yn dod dan ymbarél Niwroamrywiol ac sydd wedi dod o hyd i ddiogelwch a chysur yn y prosiect. Dros y tair blynedd diwethaf, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd hefyd wedi cefnogi pobl ifanc i ddatblygu parth ieuenctid pwrpasol yn Pride Cymru sy'n cael ei gynnal yn flynyddol.
Gweithgareddau ar Gael
Celf a chrefft
Gweithgareddau digidol
Coginio
Gêmio
Gemau bwrdd


Amser
Dydd Mercher 18:00-20:45 @ Canolfan Ieuenctid Eastmoors