Cardiff Youth Service

Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái

North Ely Youth Centre

Mae Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái yn ganolfan fywiog a chroesawgar yng nghymuned Trelái, sy’n darparu cymorth a gwasanaethau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Rydym yn gweithio gydag aelodau allweddol o’r gymuned i ddarparu amrywiaeth o glybiau ieuenctid, megis clybiau ieuenctid iau ac hŷn , darpariaeth gynhwysol, a phrosiectau wedi'u targedu. Mae gennym berthynas hirsefydlog â Chanolfan Ieuenctid Stanheim yn Stuttgart, ac rydym yn cynnal grwpiau o’r Almaen yn rheolaidd.

Ers i mi ddod i Ganolfan Ieuenctid Gogledd Trelái, rwyf wedi dod yn fersiwn well ohonof fy hun. Dechreuodd y lle hwn fy ngyrfa mewn cerddoriaeth, a'm harwain i'r cyfeiriad cywir. newidiodd y NEYC fy mywyd.

YR HYN A GYNIG A PHRYD

Coginio

XBOX a Playstation

Argraffu crys-T a chyfleoedd digidol creadigol

Celf a chreft

Chwaraeon

Clwb ieuenctid Hub (bl 10+) Dydd Mawrth – 17:15 i 19:45

CF Thrive (Bl 7+) Dydd Mawrth 18:30-20:00 yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin

Clwb ieuenctid iau (bl 7-9) Dydd Iau – 17:15 i 19:45

Dydd Gwener Inters (bl 9+)- 17:15-19:45

North Ely Youth Centre
North Ely Youth Centre Team shot

Mae’n lle y gallwch deimlo’n gyfforddus yn bod yn chi’ch hun, a chael gweithwyr ieuenctid gwych i’ch cefnogi gydag unrhyw beth sy’n eich wynebu. Rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i ddatblygu llawer o sgiliau, cymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau a hyd yn oed mynd ar daith gyfnewid ieuenctid!

Person Ifanc

Cysylltwch â ni

E-bost North.Ely@cardiff.gov.uk

Ffon 02920 592 407

Cyfeiriad Pethybridge Rd, Cardiff, CF5 4DP

 

 

 

 

 

cyWelsh
Scroll to Top