Gwaith Stryd
Amdanom Ni
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed, ble bynnag y maent; corneli stryd, digwyddiadau cymunedol, parciau ac ardaloedd lle mae'n hysbys bod pobl ifanc yn cymdeithasu. Rydym yn cynnig ein gwasanaethau ar draws y ddinas ynghyd ag amrywiaeth o ymyriadau sy'n cynnwys cyfeirio ac atgyfeirio at sefydliadau sy'n cynnig cymorth arbenigol ac unigol. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid eraill i gyflwyno prosiectau a gweithgareddau mewn lleoliadau cymunedol. Bydd Gweithwyr Ieuenctid sy'n gweithio ar y stryd ac mewn mannau lle mae pobl ifanc yn cymdeithasu yn cael eu hadnabod gan fathodynnau enwau a dillad Gwaith Ieuenctid Cyngor Caerdydd.
Rydyn ni hefyd yn cynnig bws gwasanaeth ieuenctid sef ein darpariaeth symudol sy'n ymweld â sawl ardal o'r ddinas. Mae hyn yn cynnig gwybodaeth, cymorth ac arweiniad, yn ogystal â phrosiectau a gweithgareddau sy'n berthnasol i bobl ifanc.
Gyda phwy y byddwn ni’n gweithio
- Sefydliad Dinas Caerdydd,
- Sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector,
- Iechyd y Cyhoedd, Gwasanaethau Digartrefedd
- Heddlu De Cymru a SCCH y gymdogaeth
- Gyrfa Cymru
- Gwasanaethau Mentora Ieuenctid
- YMCA, Switched On
- Lles Emosiynol
- Canolfan Waith
- Porth Teuluoedd a gwasanaethau ehangach y cyngor.