Cardiff Youth Service

Darpariaeth Cymraeg

Amdanom Ni

Ein nod yw grymuso pobl ifanc Caerdydd drwy ddarparu cymorth un i un wedi'i dargedu o fewn ysgolion, clybiau ieuenctid bywiog, gweithgareddau deniadol, a chyfleoedd amhrisiadwy, y cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Credwn y dylai pob person ifanc gael cyfle i gysylltu, tyfu a ffynnu yn ei iaith ei hun.

Cefnogir pob ardal yng Nghaerdydd gan Weithwyr Ieuenctid Cymraeg ymroddedig sy'n cydweithio i greu amgylchedd croesawgar i'n pobl ifanc. Rydym yn cydnabod bod cymryd rhan mewn gwaith ieuenctid yn y Gymraeg yn meithrin ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn a hefyd yn gwella sgiliau cyfathrebu a dealltwriaeth ddiwylliannol.

Croeso i CFTi!

Mae CFTi yn dîm hwyliog o Weithwyr Ieuenctid o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Urdd Gobaith Cymru, a Menter Caerdydd yn cydweithio i gyflwyno darpariaeth ieuenctid drwy'r Gymraeg! Mae ein henw yn arbennig oherwydd mae'n sefyll am god post Caerdydd, a hefyd yn cynnwys y gair Cymraeg 'Ti’.

Credwn fod pob person ifanc yng Nghaerdydd yn haeddu cael amser gwych. Dyna pam rydyn ni'n creu cyfleoedd anhygoel i chi gymdeithasu, dysgu pethau newydd, a chael llawer o hwyl, yn yr ysgol a'r tu allan iddi.

Ymunwch â ni ar gyfer gweithgareddau ac anturiaethau cyffrous lle gallwch wneud ffrindiau newydd a darganfod yr holl bethau gwych y gallwch eu gwneud. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi!

Gweithgareddau

Clybiau amser cinio yn Ysgolion Plasmawr, Glantaf a Bro Edern

Dydd Mercher 16:30– 19:00 Clwb Ieuenctid Ar-lein Discord

Dydd Iau 15:00 – 17:00 Clwb Ieuenctid yng Nghanolfan Ieuenctid Gabalfa

Manylion Cyswllt

Ceri.Jones7@cardiff.gov.uk 

 

welsh provision
Welsh provision

“Mae gweithiwr ieuenctid gwych gyda ni yn Glantaf a mae'n neis mynd i clwb CFTI achos mae pawb yn siarad Cymraeg. Os yw'r staff i gyd yn y clwb yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd, mae hyn yn gwneud y Gymraeg yn mwy naturiol. Mae holl ffrindiau fi yn siarad Saesneg gyda fi tu allan i'r ysgol a gweud pethau fel 'what you speaking Welsh for' ond fi ddim yn cael na pan fi'n mynd i clwb ieuenctid Cymraeg ble mae pawb, y plant a'r staff i gyd yn siarad Cymraeg, mae'n rili gwych ifi!“

Person Ifanc
cyWelsh
Scroll to Top