Cardiff Youth Service

Grantiau Arloesi Ieuenctid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig y rhain i sefydliadau ieuenctid y trydydd sector yng Nghaerdydd i sicrhau bod gweithgarwch Gwaith Ieuenctid ar gael i bobl ifanc mewn cymunedau a bod Gweithwyr Ieuenctid ar gael i'w cefnogi. Mae pob sefydliad yn gwneud cais am arian trwy'r cynllun ac yn cael cymorth i sicrhau canlyniadau gwell i bobl ifanc yng Nghaerdydd

YMCA

Mae Darpariaeth Ieuenctid Mynediad Agored YMCA Caerdydd yn cynnig lle diogel a chroesawgar i bobl ifanc gysylltu, tyfu a ffynnu. Gan ganolbwyntio ar gynwysoldeb a chymuned, rydym yn darparu amrywiaeth o weithgareddau wedi'u teilwra i wahanol ddiddordebau, gan gynnwys y celfyddydau creadigol, chwaraeon a gemau, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu sgiliau bywyd a hyder trwy weithdai a thrafodaethau grŵp. Mae ein tîm cyfeillgar o weithwyr ieuenctid bob amser wrth law i gynnig cymorth ac arweiniad, gan sicrhau bod pob person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i glywed. P'un a yw'n gyfle i ymlacio, gwneud ffrindiau neu archwilio cyfleoedd newydd, mae YMCA Caerdydd yma i rymuso pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn. Does dim angen cadw lle – mae pobl ifanc yn gallu galw heibio a chymryd rhan ac yna maen nhw’n gallu cael mynediad i ffurflen aelodaeth. Mae'r holl ddarpariaeth yn rhedeg o Plas YMCA, 2 Shakespeare Street, Caerdydd CF24 3ES.

 

Dydd Llun: Clwb Ieuenctid Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches a Ffoaduriaid - 18:00- 20:30

Dydd Iau: Sgiliau a Lles Iau (Blwyddyn 7,8,9) 16:00-18:00

Dydd Iau: Clwb Ieuenctid Hŷn (Blwyddyn 9+) 19:00-21:00

Dydd Gwener: Clwb Ieuenctid Iau ( Blwyddyn 6, 7 ac 8) 16:30-18:30

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Abbie ar abbie.weir@ymcacardiff.cymru neu 07947871405

Mae dod i'r YMCA yn rhoi lle i mi fod yn fi fy hun, cwrdd â ffrindiau newydd a chael hwyl heb boeni am unrhyw beth arall.

Person Ifanc

Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon

Ein cenhadaeth yw darparu gweithgareddau hamdden mynediad agored Cyffredinol o ansawdd uchel i bobl ifanc 11 i 25 oed yn Grangetown, i'w helpu i gyflawni eu potensial a hybu eu canlyniadau hirdymor.

Mae ein tîm staff o weithwyr ieuenctid proffesiynol yn darparu gofod diogel a gofalgar dan arweiniad ieuenctid, lle gall pobl ifanc ddysgu, datblygu a chyfrannu at adeiladu dyfodol disgleiriach.

Mae ein rhaglenni yn rhad ac am ddim i'w cyrchu ac yn agored i bawb. Rydym yn eu ddarparu o Glwb Bechgyn a Merched Grangetown a Warws Glan-yr-afon.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys chwaraeon, coginio iach, cerddoriaeth, celf, datblygu sgiliau a llwybrau gyrfaoedd. Mae'r gwaith, sy'n cael ei gyflawni gan ein tîm profiadol, yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn hyrwyddo mwynhad a chydweithio. Does dim angen cadw lle – mae pobl ifanc yn gallu galw heibio a chymryd rhan.

 

Nos Lun a nos Fercher 18:00-21:00 @ Clwb Bechgyn a Merched Grangetown, Earl Lane, Grangetown, Caerdydd CF11 7EJ

Nos Fawrth a nos Wener Sesiwn gymysg 18:30-21:00 @ Warws Glan-yr-afon, Machen Place, Glan-yr-afon, Caerdydd CF11 6EQ

Nos Iau Merched yn unig 18:30-21:00 @ Warws Glan-yr-afon, Machen Place, Glan-yr-afon, Caerdydd CF11 6EQ

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Steve Khaireh Khaireh30@yahoo.co.uk Khaireh30@yahoo.co.uk

Mae'r clwb ieuenctid yn wych. Rydym yn cael cymaint o hwyl a chyfleoedd i gwrdd â ffrindiau, coginio bwyd a mynd ar deithiau anhygoel. Mae gennym ystafell gerddoriaeth, campfa ac ati ac mae'r staff yn wych. Rydyn ni'n siarad â nhw drwy'r amser.

Person Ifanc

YR URDD

Mae'r Urdd yn cynnig cyfleoedd gwaith ieuenctid Cymraeg i bobl ifanc trwy glybiau ieuenctid gyda'r nos, clybiau amser cinio, clybiau ar ôl ysgol, clwb LHDTQ+ penodol, fforwm ieuenctid a darpariaethau penwythnos a gwyliau gan gynnwys teithiau.

 

Dydd Mercher – 15.30-17:00 - Clwb Ieuenctid (Blynyddoedd 7 i 9) @ Canolfan Hamdden y Tyllgoed (dim ond galw heibio a chymryd rhan sydd ei angen) neu

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Miri Hughes - mirihughes@urdd.org / 07974089382 mirihughes@urdd.org / 07974089382 or

Siwan Mason – siwanmason@urdd.org / 07768333120 

“I think the clwb Cymraeg is bendigedig.”

Person Ifanc

Prosiect Ieuenctid a Chymunedol Cathays a Chanol Caerdydd

Mae Canolfan Gymunedol Cathays yn cynnal amrywiaeth o glybiau a chyfleoedd ieuenctid trwy'r Grantiau Arloesi Ieuenctid. Mae cyfleoedd yn llawn hwyl ac yn cynnwys teithiau ac ymweliadau preswyl, creu cerddoriaeth, coginio a bwyta'n iach, chwaraeon, celf a chrefft, gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae Rhaglen Wirfoddoli hefyd ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau cymryd rhan ymhellach a datblygu sgiliau arweinyddiaeth a hyder. Does dim angen cadw lle – dim ond galw heibio a chymryd rhan sydd ei angen.

Nos Lun Clwb Ieuenctid ADY (11-24 oed) 18:00-20:30 - mynediad £2 (yn rhedeg am 39 wythnos y flwyddyn)

Nos Fawrth Clwb Ieuenctid LHDTC+ Impact (11-24 oed) 17:00-19:00 Mynediad £2 (yn rhedeg am 52 wythnos y flwyddyn)

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Bud Harper - bud.harper@cathays.org.uk - 07971324280 bud.harper@cathays.org.uk – 07971324280

Mae fy mhrofiad o fod yn aelod yng nghlwb ieuenctid nos Lun wedi fy ysbrydoli i ddechrau gwirfoddoli yng Nghanolfan Gymunedol Cathays. Dechreuais wirfoddoli y llynedd tua diwedd mis Gorffennaf. Roeddwn i'n 18 oed ar y pryd, a dyma'r digwyddiadau rydw i wedi bod yn rhan ohonynt eleni.

Person Ifanc

Rydw i wedi mynychu'r clwb ieuenctid ers pedair blynedd, a thrwy gydol y blynyddoedd hynny mae effaith wedi bod wrth wraidd fy nghymorth. Mae Impact wedi fy ngalluogi i ffynnu a thyfu i fod y person rydw i am fod drwy gefnogaeth a chyngor wrth roi lle i mi fod yr hyn rwyf am fod. Rydw i wedi fy amgylchynu gan y rhai sy fel fi ac, yn y pen draw, heb Impact, fyddwn i ddim yr unigolyn hyderus yr ydw i heddiw.

Person Ifanc

CBC Ministry of Life

Mae Ministry of Life yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ifanc trwy eu darpariaeth ieuenctid yn eu canolfan a’u darpariaeth dros dro. Mae'r mannau hyn yn cynnig lle diogel i fod gyda gweithwyr ieuenctid i ddysgu a datblygu’n gymdeithasol, yn emosiynol, yn gorfforol ac yn addysgol! Mae'r gweithgareddau'n cynnwys cerddoriaeth, chwaraeon, sesiynau cymorth addysgol, Gwobrau Cyflawniad Ieuenctid, teithiau a gwibdeithiau dan arweiniad ieuenctid, gwaith grŵp. Does dim angen cadw lle – dim ond galw heibio a chymryd rhan sydd ei angen.

Dydd Llun – Clwb Ieuenctid Dros Dro (11-25 oed) 16:00-18:00 @ Parc sglefrio a maes parcio Canolfan Hamdden Pentwyn

Nos Lun – Clwb Ieuenctid Tremorfa (11-25 oed) 19:00- 21:00 @ Canolfan Chwarae’r Sblot, Heol Muirton (yng nghefn Maes Parcio Hyb STAR), CF24 2SJ Splott Play Centre, Muirton Road (at the back of the Star Hub Car Park), CF24 2SJ

Dydd Mawrth – Sesiynau grŵp caeëdig (11-25 oed). Cysylltwch â MOL i gael mwy o wybodaeth

Dydd Iau – Clwb Ieuenctid Dros Dro Gabalfa (11-25 oed) 16:00-18:00 @ AChA Parc Lydstep, CF14 2ST Lydstep Park MUGA, CF14 2ST

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â MOL yn www.molyouthservices.co.ukwww.facebook.com/molcardiff neu e-bostiwch ministryoflife@live.co.uk 

Yn y clwb ieuenctid rydyn ni’n cynllunio ein gweithgareddau a'n teithiau ein hunain. Nid galw heibio a gwneud gweithgareddau’n unig yw’r nod, rydyn ni’n cael cyfle i gynllunio gweithgareddau a theithiau a rhannu materion â gweithwyr ieuenctid sydd â diddordeb ynom ni

Person Ifanc
cyWelsh
Scroll to Top