
Ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc neu mewn rôl sy’n canolbwyntio ar ieuenctid?
Ymunwch â ni naill ai ddydd Llun 7 Gorffennaf neu ddydd Iau 10 Gorffennaf, 11am-11.45am, trwy MS Teams, wrth i Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd, Gwasanaethau Cyngor i Waith ac Ymrwymiad Caerdydd eich tywys trwy raglen haf o weithgareddau y gall pobl ifanc yng Nghaerdydd gael mynediad iddi.
Bydd y sesiynau hefyd yn cyflwyno cyfleoedd i ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael wrth ddewis eu camau nesaf mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac amrywiaeth o wasanaethau a all helpu pobl ifanc i edrych trwy’r holl gyfleoedd yma yng Nghaerdydd.
Rhannwch gydag unrhyw gydweithwyr y credwch y byddai’n elwa o fynychu. Anfonir dolen ar gyfer MS Teams atoch gan dîm Ymrwymiad Caerdydd mewn dyddiadur.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â cardiffcommitment@cardiff.gov.uk