Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu
Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!
Mae nifer o ffyrdd y gallwch ymwneud â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Os ydych yn berson ifanc 11-25 oed, beth am ddod yn aelod o'r Gwasanaeth Ieuenctid? Cewch eich cefnogi gan ein tîm Gwaith Ieuenctid a cewch gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau newydd. Canfod sut gallwch ddod yn aelod o’r gwasanaeth ieuenctid.
Mae ein gwasanaeth yn ceisio rhoi cyfleoedd sy'n cefnogi gwirfoddolwyr i weithio gyda phobl ifanc mewn cymunedau, gan eu hannog i chwarae rhan mewn newid bywydau pobl ifanc. Mae gyrfaoedd Gwaith Ieuenctid yn aml yn dechrau gyda chlybiau ieuenctid a gwirfoddolwyr sy'n darparu gweithgareddau, arweiniad a sgiliau bywyd i bobl ifanc! Mae'r cyfan yn dechrau gyda chi ac rydym yma i helpu. Gallwn hefyd helpu pobl ifanc i ystyried cyfleoedd gwirfoddoli eraill, a chyfeirio at sefydliadau eraill. Rhagor o wybodaeth ar wirfoddoli gyda ni.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o leoliadau cyffrous ac amrywiol i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau Gwaith Ieuenctid a Chymunedol o Lefel 2 hyd at Lefel 7. Mae'r holl leoliadau wedi'u strwythuro o amgylch y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac maent yn bodloni gofynion y cwrs perthnasol. Rhagor o wybodaeth ar ein cyfleon o ran lleoliadau gwaith.
Rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer rolau amrywiol o fewn y gwasanaeth, o Weithwyr Cymorth Ieuenctid i Uwch Swyddogion Ieuenctid. Cliciwch Canfod pa swyddi gwag sydd gennym ar hyn o bryd.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o adran Addysg Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i ddatblygu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol drwy amrywiaeth o gyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau mewn cymunedau, profiadau cyfranogol, yn ogystal â gwybodaeth, cymorth ac arweiniad sy'n galluogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial unigryw. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnig cymorth cyffredinol ac, i'r rhai y nodwyd eu bod yn agored i niwed, cymorth wedi'i dargedu.
Mae ein gweithwyr ieuenctid a'n gweithwyr cymorth ieuenctid yn weithlu cofrestredig sydd â chymwysterau cenedlaethol. Gwneud cais i gofrestru (ewc.cymru). Rydym yn gyfeillgar ac yn agos atoch, a'n diben yw helpu a gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau. Gallwn gefnogi pobl ifanc gyda gwybodaeth, arweiniad, cyfleoedd newydd a thrafodaethau ynghylch materion a allai fod yn effeithio arnynt hwy neu eu cyfoedion. Mae hawliau plant a CCUHP wedi'u hymgorffori yn yr holl waith a wnawn, gydag ymgynghoriadau rheolaidd yn digwydd yn barhaus. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i bartneriaeth ag UNICEF i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n dda i blant.
Mae ein hymgysylltiad â phobl ifanc yn digwydd mewn canolfannau ieuenctid a chlybiau ieuenctid, ar y stryd lle mae pobl ifanc, yn ogystal ag mewn ysgolion a chymunedau. Rydym yn dechrau ymgysylltu mwy mewn mannau digidol, a gallwch ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol amrywiol i gael gwybod mwy. Ni allwn gyflawni gwaith gyda phobl ifanc yn unig, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio a phartneriaethau mewn cymunedau ledled Caerdydd. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy.
Mae gennym lawer o ganolfannau ieuenctid ledled Caerdydd. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r un iawn i chi lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel i gael hwyl a chymdeithasu gyda'ch ffrindiau, a chreu rhai newydd.
ArchwilioMae gan bob person ifanc hawliau: Rydym ni, fel Cyngor sy’n cynrychioli pobl 11-25 oed, yn eirioli dros newid cadarnhaol a hawliau plant ledled y ddinas.
ArchwilioThe Voice of Young People on Safeguarding
Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!
Mae rhaglen Dug Caeredin yn gyfle gwych i wthio eich hun, ennill sgiliau newydd a datblygu hobïau a diddordebau newydd..
ArchwilioRydym yn darparu Grantiau Arloesi Ieuenctid i'n partneriaid i ddarparu Gwaith Ieuenctid mewn cymunedau.
Archwilio