Atal Digartrefedd
Ymateb Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i ddigartrefedd pobl ifanc yw sicrhau bod pobl ifanc a allai fod yn dangos arwyddion cynnar o ddigartrefedd pobl ifanc yn cael eu nodi drwy nifer o wahanol feini prawf, a chynigir ymateb ataliol iddynt. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio nifer o wahanol ffynonellau data, gan gynnwys y PAB a'r offeryn sgrinio Uwchffrwd. Bydd yr offer hyn yn nodi'r bobl ifanc hynny a allai elwa o'r cymorth sydd ar gael. Mae'r cymorth yn amrywio o: gyfryngu teuluol, cymorth un-i-un, gwaith grŵp a sesiynau ymwybyddiaeth digartrefedd anffurfiol.
Yn ogystal, rhoddir pwysigrwydd ar sicrhau yr ymgynghorir â phobl ifanc â phrofiadau byw ar unrhyw ddatblygiadau neu ddarpariaethau a gynigir i bobl ifanc. Rôl Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yw sicrhau bod y datblygiadau a'r darpariaethau hyn yn chwarae rhan ganolog wrth ategu'r agenda ddigartrefedd o fewn y gwasanaeth.
At hynny, bydd datblygu grŵp gweithredol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc sy'n profi digartrefedd yn cael ei sefydlu. Y diben yw sicrhau bod ymateb cadarn yn cael ei gynnig ar draws y ddinas ynghyd â llwybr clir a hygyrch i bobl ifanc ddigartref. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, cysylltwch â ni drwy'r manylion isod.
Ymagwedd gwasanaeth cyfan
- Darparu pecyn gweithgareddau Agor Drysau i bobl ifanc 11-18 oed, ymwybyddiaeth a chyflwyniad i ddigartrefedd pobl ifanc.
- Darparu'r Pecyn Trac Cywir i gael gwybodaeth am dai a digartrefedd.
- Hyfforddiant staff sy'n ymwneud â digartrefedd pobl ifanc i ddeall sut i adnabod yr arwyddion, cynnig y wybodaeth a'r gefnogaeth gywir, yn glir o'r llwybr digartrefedd a hawliau pobl ifanc i gael gafael ar dai a chymorth tai priodol.
- Casglu a choladu data fel y bo'n briodol, er mwyn nodi'n gynnar y bobl ifanc hynny a allai fod yn arddangos nodweddion a allai arwain at ddigartrefedd pobl ifanc (h.y. syrffio soffa, chwalfa/gwrthdaro teuluol, presenoldeb gwael yn yr ysgol, trais domestig, gweithgareddau troseddol, ynysu, profedigaeth, LHDTC+ ac ati)
- Gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiadau byw i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu ymwybyddiaeth o ddigartrefedd pobl ifanc ym mhob darpariaeth a theilwra ymyrraeth gyfredol er mwyn hyrwyddo lleisiau pobl ifanc.
- Darparu sesiynau ar reoli iechyd meddwl a lles da er mwyn datblygu'r gallu i "ymdopi" â heriau a allai arwain at ddigartrefedd pobl ifanc (ymyriadau sy'n seiliedig ar gryfderau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar ganolfannau)
- Cefnogi pobl ifanc i gael Gwaith, Addysg, Hyfforddiant neu i Wirfoddoli i leihau'r risg o ymddieithrio a'r risg o fod yn ddigartref.