CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Digidol

Amdanom ni

Mae'r tîm Gwaith Ieuenctid Digidol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i bobl ifanc 11-25 oed ar draws y ddinas. Gall Pobl Ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau o wylio ein sianel Youtube i gwrdd â phobl ifanc newydd ar-lein. Gallant hefyd ddatblygu sgiliau drwy weithdai yn y cyfryngau. Mae gennym fynediad i stiwdios cerddoriaeth, ystafelloedd cyfryngau a theatrau, sy'n ein galluogi i weithio gyda grwpiau i ddysgu sgiliau yn ymwneud â chreu fideos, cynhyrchu cerddoriaeth a dylunio graffig.  Mae staff cymwysedig ar y safle i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion i bobl ifanc. 

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid drwy Grŵp Gweithredu Ieuenctid Digidol, sy'n cynnig lle i ddatblygu gwaith digidol gyda phartneriaid pobl ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys:  The Sprout, Cymunedau Digidol Cymru, Plant yng Nghymru, YMCA a Sound Progression. Mae'r grŵp yn cyfarfod ar ddydd Llun olaf pob mis. Os hoffech ymuno â'r grŵp, mae manylion i'w gweld isod.

Mannau a dulliau digidol ar gyfer Pobl Ifanc

Mae'n bwysig yn awr yn fwy nag erioed, bod ystyriaethau digidol yn cael eu cynnwys o fewn arferion a pholisi gwaith ieuenctid presennol. Mae 75% o bobl ifanc bellach yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol (Ofcom, 2017). Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ymhlith llawer o Wasanaethau Ieuenctid a gwasanaethau cymorth ieuenctid ehangach sydd wedi gorfod addasu ei wasanaethau’n gyflym oherwydd Covid-19, er mwyn sicrhau ein bod yn dal i allu gweithio'n effeithiol gyda phobl ifanc a bodloni eu hanghenion. Bu'n rhaid i wasanaethau fynd i'r afael â'r byd ar-lein gan addasu i dechnoleg a llwyfannau digidol i ddarparu gwasanaethau'n effeithiol.

Mae ddau digwyddiad wedi cael ei cynnal gan y tim Gwaith Ieuenctid Digidol, nod y digwyddiadau mannau a dulliau digidol oedd darparu gweithwyr ieuenctid a gwasanaethau ehangach sy'n gweithio gyda phobl ifanc i gael gwell dealltwriaeth o beth yw gwaith ieuenctid digidol, o sut y gellir ei weithredu ac i roi cyfle i rannu arfer da.

Cynigiwyd y cyntaf o'r digwyddiadau hyn i staff y Gwasanaeth Ieuenctid a gwasanaethau cymorth ieuenctid ehangach yng Nghaerdydd. Yn ystod y digwyddiad hwn, lansiwyd gwefan Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a grëwyd ar y cyd â phobl ifanc, cewch glywed gan un o'r bobl ifanc a fu'n rhan o’r gwaith hwn.

Cynigiwyd yr ail ddigwyddiad i bartneriaid rhanbarthol y Gwasanaeth Ieuenctid sy'n cynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.

From the success of these events Cardiff Youth Service will host them annually with input from wider youth support services and partners. They also continue to take lead of a digital youth action group in Cardiff to further develop digital practice and provide a support network for organisations, if you would like to join tis group please contact on the details below

O lwyddiant y digwyddiad hwn bydd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnal hyn yn flynyddol gyda mewnbwn gan wasanaethau a phartneriaid cymorth ieuenctid ehangach. Byddwn hefyd yn parhau i arwain grŵp gweithredu ieuenctid digidol yng Nghaerdydd i ddatblygu arfer digidol ymhellach ac i greu rhwydwaith cymorth i sefydliadau. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, cysylltwch drwy ddefnyddio’r manylion isod.

I darllen yr adrodd llawn clicio yma:

MANNAU A DULLIAU DIGIDOL AR GYFER POBL IFANC

Creawdwyr Ifainc

Mae grŵp o bobl ifanc (11-18 oed) yn gweithio ar y cyd â chefnogaeth Gweithwyr Ieuenctid i ddatblygu sgiliau amlgyfrwng. Nod datblygu'r sgiliau hyn yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu cynnwys ar-lein ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.  Er enghraifft, gall pobl ifanc gymryd rhan mewn: ysgrifennu blogiau, ffotograffiaeth, creu flogiau, posteri, podlediadau, cynnwys cyfryngau cymdeithasol neu weithio ar ymgyrchoedd. Os ydych chi'n rhywun sydd eisiau dysgu'r sgiliau hyn, neu sy'n angerddol am greu cynnwys, yna mae lle i chi. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt sydd i'w gweld isod. Mae'r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol ar-lein: Dydd Mawrth 5-6:30pm.

Ffrwd Gemau Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Ydych chi'n mwynhau Gemau? Yn mwynhau gwylio ffrydiau byw? Beth am ymuno â ni ar gyfer ein ffrwd gemau wythnosol 5:30-6:30pm ar YouTube lle byddwn yn chwarae'r gemau rydych chi'n eu caru ac yn siarad am y pethau sy'n bwysig? Ar hyn o bryd byddwn yn chwarae'r gêm boblogaidd 'Among Us'.  Os hoffech wylio, tanysgrifiwch i'n sianel a tiwniwch i mewn am 5:30pm. Fel arall, os ydych yn dymuno ymuno â'r gêm, gallwch gysylltu drwy instagram.

Gweithdai'r Cyfryngau

Byddwn yn cyflwyno gweithdai am y cyfryngau yn ein Canolfannau Ieuenctid lle cewch gyfle i ddysgu sgiliau ynghylch: dylunio graffeg, ffotograffiaeth, diogelwch ar-lein a ffilm. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am pryd y byddwn yn cynnig hyn yn eich ardal, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

 

Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.