CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Grantiau Datblygiad Newydd Ieuenctid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig chwe grant i sefydliadau ieuenctid y trydydd sector yng Nghaerdydd i sicrhau bod gweithgarwch Gwaith Ieuenctid ar gael i bobl ifanc 11-25 oed mewn cymunedau a bod gweithwyr ieuenctid ar gael i'w cefnogi. Mae pob sefydliad yn gwneud cais am arian drwy'r cynllun ac fe'u cefnogir i sicrhau canlyniadau gwell i bobl ifanc yng Nghaerdydd

YMCA

O'n canolfan gymunedol, mae YMCA Plas, YMCA Caerdydd yn darparu nifer o weithgareddau i bobl ifanc. Mae ein Clwb Ieuenctid yn cynnig lle i bobl ifanc gael cymorth gan weithwyr ieuenctid hyfforddedig bob nos Iau rhwng 4pm ac 8pm. Bydd gan bob sesiwn clwb ieuenctid nifer o weithgareddau gan gynnwys chwaraeon/ymarfer corff, celf a chrefft a gweithdai sy'n seiliedig ar broblemau. Am fwy o wybodaeth dilynwch ni ar Twitter ac Instagram yn @YMCACardiffYouthProvisions neu ewch i'r wefan cliciwch yma

 

Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan-yr-afon

Mae canolfan ieuenctid De Glan-yr-afon yn cynnig ystod eang o raglenni a gweithgareddau i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae'r ddau glwb ieuenctid yn cael eu staffio gan weithwyr ieuenctid cymwysedig, ac maent ar agor nos Lun a nos Iau rhwng 6.00pm a 8.30pm.  Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch Steve Khaireh ar 07447070966 neu ewch i'r wefan cliciwch yma

 

YR URDD

Clwb Ieuenctid ar-lein yn lleol i ardal Caerdydd a'r Fro, mae croeso i unrhyw un ym mlynyddoedd 7-9pm. Dewch i ymuno yn yr hwyl a cyfarfod ffrindiau newydd mewn awyrgylch ddiogel.

 

 Clwb Caerdydd ar Fro

ewch i'w gwefan am ragor o wybodaeth cliciwch yma

 

Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE)

Mae cynnig ieuenctid ACE yn seiliedig ar waith ar y stryd, cwrdd â'r bobl ifanc yn eu hamgylchedd, deall eu bywydau, eu hanghenion a'u teimladau bob dydd. Mae'r dull hwn yn caniatáu cwrdd â phobl ifanc sydd wedi ymbellhau o'u hysgolion, eu cartrefi neu eu cymuned ehangach. Rydym yn cyfeirio at wasanaethau sydd ar gael gyda'r gobaith o greu cyfleoedd. 

Rydym yn cynnig ein gwasanaethau ar Ddydd Llun a Dydd Gwener yn Nhrelái a Chaerau 5-8pm, lle byddwn yn defnyddio amrywiad ar Fan Ace a gwaith ar y stryd o 5pm tan 8pm yn ymweld â mannau poblogaidd, yn cynnig cyngor, codi arwyddion a’r gwasanaeth cerdyn C.

Dydd Mawrth a dydd Iau 5-8pm rydym yn cynnig gwaith ar y stryd yn ardal y Tyllgoed.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy’r cyfryngau cymdeithasol: Facebook @AceYouthOffer Instagram: @AceYouth e-bost Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ewch i’r wefan cliciwch yma

 

Canolfan Gymunedol Cathays

Canolfan Gymunedol Cathays

Mae Canolfan Gymunedol Cathays yn cynnal amrywiaeth o glybiau ieuenctid drwy'r Grantiau Arloesi Ieuenctid.

Cynhelir Clwb Ieuenctid Embassy (EYC) bob dydd Llun 6-8:30pm. Mae hwn yn glwb mynediad agored i unrhyw un 11-25 oed. Ry’n ni’n cynnig cyfleoedd mewn amgylchedd cynhwysol a hwyl i berfformio yn ein stiwdios cerddoriaeth, dysgu sgiliau fel coginio, chwarae gêmau chwaraeon a chwrdd â ffrindiau newydd. Ar hyn o bryd, mae EYC yn cael ei gyflwyno ar-lein dros Zoom. Mae sesiynau'n cynnwys pethau fel cwisiau, gêmau fideo, coginio, dawnsio, ymarfer corff, ioga, nosweithiau gêmau a karaoke. 

Mae Impact yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 5-7pm. Clwb LHDTC+ yw hwn, sydd ar agor i bobl ifanc sy'n uniaethu fel lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a'r rhai sy'n cwestiynu neu'n ansicr ynglŷn â'u hunaniaeth rhywedd a/neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae gennym ddau grŵp, ar gyfer y rhai 11-16 oed a 17+. Fel arfer, byddem yn cynnal perfformiadau yn y Ganolfan y byddem yn creu propiau ar eu cyfer mewn sesiynau celf a chrefft, yn mynd ar deithiau dydd ac yn cynnal gweithdai ar amrywiaeth o bynciau mewn man diogel i siarad am y materion sy'n bwysig i chi. Fodd bynnag, ry’n ni wedi bod yn cyfarfod bob dydd Mawrth dros Discord ers dechrau'r cyfnod clo. Os ydych am ddod i ymuno â ni, anfonwch e-bost atom; Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu cysylltwch â ni drwy ein tudalen Facebook; https://www.facebook.com/ImpactCardiff

Nos Wener 6-9pm ry’n ni’n rhedeg y Ddarpariaeth Ieuenctid Gynhwysol, ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i chwarae chwaraeon, gwneud cerddoriaeth, a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae hwn yn cael ei redeg fel partneriaeth rhwng CCYCP a Chyngor Caerdydd. 

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r clybiau hyn, e-bostiwch Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. neu ffoniwch 029 2037 3144. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Twitter (@ccycp1) neu Facebook (ccycp) neu ewch i'n gwefan - cliciwch yma

 

 

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed gymryd rhan mewn rhaglenni a phrosiectau ar draws dinas Caerdydd. Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a rhaglenni addysgol yn ein Canolfannau ar draws y ddinas ac mae rhywbeth i bawb; os ydych chi eisiau cymryd rhan neu eisiau ymlacio a chael hwyl gyda ffrindiau, dyma’r lle i fod.

Rydym hefyd yn darparu rhaglenni pwrpasol sy'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu neu gynyddu sgiliau sydd ganddynt, sy'n allweddol wrth ddatblygu hyder, cymhelliant, datrys problemau, gwaith tîm, sicrhau y caiff eu llais ei glywed, cynllunio gweithredu a gosod nodau a fydd oll yn gwella eich CV neu geisiadau am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol.

 

 

 

 

Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.