CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Grassroots

Amdanom ni

Prosiect ieuenctid canol y ddinas ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed yw Grassroots.  Rydym yn Heol Charles ers dros 40 mlynedd, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i bobl ifanc gan gynnwys Gwybodaeth, Cymorth ac Arweiniad i bobl ifanc y mae llawer ohonynt yn aml mewn argyfwng.  Mae Gweithwyr Ieuenctid cymwys ac angerddol bob amser ar gael i gynnig ymyriadau sy'n canolbwyntio ar atebion wrth gadw anghenion pobl ifanc wrth wraidd ein hymarfer bob amser.  Rydym yn aml yn gweithredu fel eiriolwyr dros bobl ifanc gyda gwasanaethau eraill, gan sicrhau eu bod yn cael eu hawliau fel dinasyddion.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n cynnwys recordio cerddoriaeth, sesiynau creadigol, sgiliau bywyd, cymorth rhianta ac yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid allweddol gan gynnwys Tai a Gwasanaethau i'r Digartref; Iechyd ac Iechyd Meddwl; Gwasanaethau i Mewn i Waith; yr Adran Gwaith a Phensiynau; Gadael Gofal; Dechrau'n Deg a phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol.  Rydym hefyd mewn sefyllfa ddelfrydol i gyfeirio ac atgyfeirio pobl ifanc at sefydliadau a gwasanaethau eraill lle bo hynny'n briodol.  Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu parseli bwyd brys i bobl ifanc mewn angen.

Heb y staff ar lawr gwlad, wn i ddim lle y byddwn i heddiw. Maen nhw wedi fy helpu lawer yn y 9 mlynedd rydw i wedi bod yn mynd yno, a fedrwn i ddim diolch digon iddynt am yr holl gefnogaeth y maen nhw wedi'i rhoi i mi a’m plant. Nhw yw'r staff proffesiynol mwyaf ffyddlon ac anhygoel i’w cael, maen nhw’n gwneud popeth y gallan nhw i’ch gwneud i chi wireddu eich breuddwydion a’ch cyfeirio ar y ffordd gywir. Fel y dywedais i, wn i ddim lle byddwn i heddiw heb grassroots' (Person Ifanc)

Baby Roots

Mae'r grŵp ar gyfer rhieni ifanc 16-25 oed ac yn cyfarfod yn wythnosol ar brynhawn Mawrth rhwng 12:30 a 14:30. (Oherwydd COVID ni allwn gynnal y grŵp dan do, felly rydym yn cyfarfod ar diroedd y Castell ar yr un diwrnod a'r un amser bob wythnos)

Rydym yn cynnig ystod eang o gefnogaeth i'r grŵp, mae gennym hefyd wasanaethau eraill sy'n dod i mewn ac yn cynnig gweithgareddau, strategaethau a chyrsiau cadarnhaol i helpu cynnydd y rhiant, gan weithio drwy rai o'r camau anodd sy'n codi ym mywyd rhiant. Gan ddangos i rieni nad ydynt ar eu pennau eu hunain yn eu taith, mae gwasanaethau a all eu cefnogi nhw hefyd. 

Gall y cymorth pwysig rydym yn ei gynnig i rieni gynnwys y canlynol: Ymlyniad, ymddygiad plant, bwyta'n iach, bwydo, chwarae, gweithgareddau cadarnhaol i'r plant gymryd rhan ynddynt, meithrin hyder, cyfeillgarwch, perthnasoedd cadarnhaol, a byddwn hefyd yn eu cefnogi gydag addysg,  cyflogaeth a hyfforddiant os ydynt yn dymuno symud ymlaen gyda hyn.

Aspie Roots 

Mae'r grŵp ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed gyda chyflwr Asperger ac mae'n cyfarfod ar nos Iau rhwng 16:30 a 19:30 yn ystod y tymor. (Oherwydd COVID ni allwn gynnal y grŵp dan do, felly rydym yn cyfarfod ynghynt, rhwng 16:00 a 18:00, ar yr un diwrnod ar diroedd y Castell)

Aspie Roots yw'r unig le y bues i lle mae’r holl bobl eraill fel fi, a dyma'r unig le ar wahân i fy nghartref lle na chafodd y rheolaeth sydd gen i ddim ei chymryd oddi arnaf. Fy mhwynt yw, ces i fod yn fi. Nid oes neb yn byw yng nghysgod unrhyw un arall yn Aspie Roots ac er ei fod yn swnio’n dipyn o cliché, mae pawb yn gyfartal (Person Ifanc)

Mae'r grŵp yn cael ei arwain gan bobl ifanc iawn ac rydym yn teimlo y dylent gael llais o ran sut caiff y grŵp ei redeg. Mae gennym lawer o wirfoddolwyr a fu’n aelodau o'r grŵp ac sy'n dymuno helpu pobl ifanc eraill sy'n ymuno, fel y cawson nhw gymorth pan gyrhaeddon nhw.

Mae gweithgareddau'n gadarnhaol ac yn ceisio helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau cymdeithasol, efallai nad ydyn nhw’n hyderus yn eu cylch, megis: Gemau bwrdd a chyfrifiadur, cymdeithasu, rhannu profiadau, perthnasoedd, a sgiliau sylfaenol fel coginio ac rydym hefyd yn cael pryd o fwyd gyda'n gilydd ar ddiwedd y noson sy'n annog sgyrsiau a meithrin cyfeillgarwch.

Oriau Agor

Mae hon yn ddarpariaeth mynediad agored, gallwch ddod yn ddi-rybudd. Os hoffech gael sgwrs cyn dod, cysylltwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ffôn neu e-bost; Mae’r manylion isod.

Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.