Iechyd Emosiynol
Mae ymateb Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i iechyd emosiynol yn cefnogi pobl ifanc, cydweithwyr, ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill i nodi strategaethau ymdopi iach i leihau'r angen am gymorth iechyd meddwl arbenigol.
Gellir gwneud hyn drwy godi ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol, darparu sesiynau grŵp gyda phobl ifanc a chyfeirio at wasanaethau cymorth.
Mae'r rhaglen iCare yn weithgaredd hunanofal sy'n ceisio helpu i'ch cefnogi gyda'ch iechyd a'ch lles emosiynol. Mae hyn yn cynnwys blwch iCare, wedi'i lenwi â gweithgareddau ac anrhegion yn ymwneud â 5 synnwyr eich corff (sef golwg, sain, arogl, cyffyrddiad a blas). Diben y blwch yw eich helpu i ddechrau edrych ar yr hyn y mae hunanofal yn ei olygu i chi a sut y gallwch ailadeiladu eich blwch ar gyfer pan fydd angen ychydig o ‘TLC’ ychwanegol arnoch. Gallwch ei ail-lenwi ag unrhyw beth sy'n eich helpu i deimlo'n well a bydd hyn yn unigryw i chi.
Law yn llaw â hyn, mae yna gyfnodolyn hunanofal gyda gweithgareddau i'ch cefnogi i gydnabod eich cryfderau a'ch nodau personol, gyda rhywfaint o ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgareddau hunanreoleiddiol defnyddiol ar gyfer pan fyddwch yn teimlo eich bod wedi'ch llethu. Rhowch gynnig arnyn nhw i weld yr hyn sy'n gweithio orau i chi – ychwanegwch y rhain at eich blwch iCare i'ch atgoffa o’r hyn sy'n eich helpu!
Yn dibynnu ar sut rydych chi'n teimlo, gallwch roi cynnig ar y rhaglen iCare hon ar eich pen eich hun, neu gydag oedolyn y gellir ymddiried ynddo fel Gweithiwr Ieuenctid. Y peth pwysicaf yw dechrau ar eich taith i greu eich pecyn cymorth hunanofal eich hun i'ch helpu pan fydd amseroedd ychydig yn anodd!
Os oes gennych ddiddordeb dysgu mwy am y rhaglen iCare, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Ymagwedd gwasanaeth cyfan
- Hyfforddiant staff o amgylch Canolbwyntio ar Atebion Byr, Cyfweld Ysgogol, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Hyfforddiant Hunanladdiad, Ymwybyddiaeth Ofalgar, ThYG (therapi ymddygiadol gwybyddol)/Gorbryder ac ati.