Diogelu
YPSafeguarding - Widget (Welsh)

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Mentora Ieuenctid

Amdanom ni

Mae Rhaglen Mentora Ieuenctid arobryn Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn brosiect ymyrraeth gynnar ac atal. Cyflwynir y rhaglen i ysgolion uwchradd a chymunedau daearyddol cyfagos, gyda'r ddarpariaeth ar gael yn Gymraeg hefyd.  Mae'r prosiect yn cefnogi pobl ifanc sydd wedi’u nodi, neu sydd mewn perygl o ddod, yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. P'un a yw pobl ifanc o oedran ysgol neu wedi gadael yr ysgol, gallant dderbyn y cymorth hwn. Y diben yw lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, neu sydd mewn perygl o fod felly, a'u helpu i ail-ymgysylltu. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl ifanc 11-25 oed, sy'n cynnwys pobl ifanc mewn addysg brif ffrwd, sy’n cael addysg y tu allan i'r ysgol, y rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, rhieni ifanc, neu unigolion sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Mae Mentoriaid Ieuenctid yn weithwyr Ieuenctid a Chymuned cymwys, ac yn defnyddio dull Gwaith Ieuenctid sy'n dechrau lle mae'r bobl ifanc. Maent yn meithrin cydberthnasau sy'n seiliedig ar ymgysylltu gwirfoddol a, thrwy roi anghenion y person ifanc wrth wraidd eu gwaith, gall pobl ifanc oresgyn problemau a rhwystrau i wireddu eu llawn botensial. 

'Roeddwn i eisiau dweud diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud i mi, yn wir, rwy'n golygu hynny o waelod fy nghalon, rydych chi wedi gwneud llawer i mi dros gyfnod byr o amser, rydych wedi fy helpu i ddatblygu ac aeddfedu ac anghofio'r hen fywyd yr oeddwn yn ei fyw.  Diolch yn fawr, diolch am fod yno i mi pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd, rwy'n ddiolchgar iawn' (Person Ifanc)

Sut mae’n gweithio?

Mae'r prosiect wedi'i gyfeirio o bolisi Llywodraeth Cymru, lle mae'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid wedi'i bennu i leihau nifer y bobl ifanc 11-25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant  Cyflawnir hyn wrth i awdurdodau lleol, darparwyr addysg a phartneriaid cenedlaethol gydweithio'n agos i nodi'n gynnar bobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant drwy'r Proffil Asesu Bregusrwydd (PAB).  Broceru cymorth a gweithio tuag at gyrchfan llwyddiannus yw prif nodau'r prosiect. Mae gan y Gwasanaeth Ieuenctid rôl hollbwysig i'w chwarae hefyd o ran darparu gweithwyr arweiniol i bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio, yn ogystal â chael gwybodaeth am bobl ifanc i gefnogi olrhain.  I gael rhagor o wybodaeth am y strategaeth hon, cliciwch yma.

Gosodir Mentoriaid Ieuenctid mewn ysgolion a darpariaethau addysgol eraill, lle maent yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i helpu i nodi pobl ifanc drwy'r broses PAB. Yna darperir cymorth 1-1 yn seiliedig ar les, cyrhaeddiad a phresenoldeb y person ifanc. Mae'r ysgol, y person ifanc, neu weithwyr proffesiynol eraill, yn cyfeirio'r person ifanc drwy lenwi ffurflen atgyfeirio. I gael rhagor o wybodaeth am hyn cliciwch yma.

Unwaith y bydd atgyfeiriad wedi'i gwblhau a'i gymeradwyo, bydd y Mentor Ieuenctid yn dechrau ar ei daith gyda pherson ifanc yn seiliedig ar berthynas wirfoddol.  Drwy asesiad STAR, bydd y Mentor yn gweithio gyda'r person ifanc i helpu i nodi ei anghenion a chreu cynllun gweithredu. Mae'r cynllun hwn yn ceisio datblygu'r person ifanc drwy gyfres o gamau sy'n mynd i'r afael â rhwystrau i ymgysylltu.  Bydd y person ifanc yn derbyn cymorth wythnosol mewn lleoliad sydd fwyaf addas iddo, a all gynnwys ei gartref, ysgol neu yn y gymuned. Bydd y cymorth 1-1 yn parhau hyd nes y bydd y person ifanc naill ai’n barod i fynd yn ôl i'r ysgol, wedi gwneud gwelliannau yn ei fywyd neu wedi symud ymlaen i Gyflogaeth, Addysgu neu Hyfforddiant.

Gyda phwy fyddwn ni’n gweithio

 Er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid.  Mae'r rhain yn cynnwys: teuluoedd pobl ifanc, ysgolion, Gyrfa Cymru, darparwyr addysgol eraill, y Gwasanaeth Lles Emosiynol, Gwasanaethau Plant, gwasanaethau cyflogaeth, grwpiau cymunedol, Clybiau Ieuenctid a sefydliadau'r trydydd sector.

'Dwi wrth fy modd bod Kyle wedi cwblhau'r cwrs ac wedi gwneud yn dda gyda'i ganlyniadau arholiadau eraill!’ (Rhiant)

 Cyllidwyr  

Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i gael ei gynnig i bobl ifanc yn y ddinas, mae'r prosiect yn defnyddio amrywiaeth o gyllid. Mae’r rhain yn cynnwys:  Cronfa Gymdeithasol Ewrop Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Cyngor Caerdydd a Teuluoedd yn Gyntaf.

Pam Mentora Ieuenctid?

Mae ein dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar atebion yn helpu pobl ifanc i:

  • Nodi eu sgiliau a’u galluoedd unigol
  • Goresgyn ffactorau neu anawsterau sy'n eu hatal rhag cyflawni eu potensial
  • Gwneud eu dewisiadau addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • Nodi cyrsiau addysg neu hyfforddiant addas
  • Derbyn y gwasanaethau iawn y mae eu hangen arnynt
  • Datblygu perthynas gadarnhaol a ddarparwyd
  • Cael yr amser a'r sylw ymroddedig y maent yn ei haeddu
  • Dod o hyd i gyfleoedd priodol
  • Gwella eu gwydnwch 
  • Datblygu eu lles, eu cyrhaeddiad a'u presenoldeb unigol 
Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.