Prosiect Cynnwys Disgyblion
Mae'r Prosiect Cynnwys Disgyblion yn brosiect i bobl ifanc ag anawsterau, nid i bobl ifanc anodd.
Wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion newidiol pobl ifanc rhwng 11-16 sydd wedi'u heithrio o addysg brif ffrwd, mae'r Prosiect Cynnwys Disgyblion yn cynnig rhaglen addysgol amgen hyblyg ac organig. Ein nod yw cynnig y sgiliau a'r hyder i bobl ifanc ddatblygu a gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau, yn enwedig mewn perthynas â gwaith ac addysg. Gobeithiwn y bydd y bobl ifanc yn cyfrannu'n effeithiol at eu cymunedau o ganlyniad.
"Rwy'n mwynhau’r PCD yn fawr, mae'r staff yn wych ac yn gefnogol" (Person Ifanc)
Mae addysg yn newid bywydau, mae'n rhoi cyfle, mae'n galluogi unigolion i lunio eu dyfodol, mae'n adeiladu cymdeithasau cryfach, mwy goddefgar a chydlynol, mae'n sylfaen i economi gref. Yn fyr, mae addysg yn bwysig.
Rydym yn cynnig rhaglen sy'n grymuso, yn gynhwysol, yn fynegiannol, yn addysgol ac yn hwyl (am beth o'r amser).
Nod
Nod y prosiect yw helpu i ddatblygu potensial academaidd, personol a chymdeithasol pob unigolyn yn y ffordd fwyaf proffesiynol a gofalgar. Cyflawnir hyn drwy gefnogi’r broses o ailintegreiddio pobl ifanc i addysg brif ffrwd, hyfforddiant galwedigaethol neu addysg bellach.
Cynhyrchir rhaglen gynlluniedig o ddigwyddiadau bob tymor, gyda chymorth y bobl ifanc, i annog perchnogaeth ac i ymrymuso. Cyflwynir y prosiect yn wythnosol drwy gydol y flwyddyn ysgol, lle mae pob person ifanc yn mynychu un diwrnod yr wythnos yng Nghanolfan Gymunedol Gabalfa a gweddill yr wythnos naill ai ym Mryn y Deryn neu ddarparwyr hyfforddiant yn y gwaith.
"Mae’r PCD yn ffantastig, rydyn ni bob amser yn cael amser da" (Person Ifanc)
DIBEN
Prif ddiben y Prosiect Cynnwys Disgyblion yw codi hunan-barch a hyder pob disgybl, a thrwy hynny ddatblygu eu bywydau a'u sgiliau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys gosod targedau realistig a chyraeddadwy yn seiliedig ar ddewis y person ifanc a rhaglen o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio.
Mae'n bwysig ein bod yn darparu amgylchedd dysgu organig, diogel ac ysgogol sy'n rhoi cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau personol. Caiff pob person ifanc ei drin fel unigolyn drwy ein dull hyblyg ac anffurfiol. Rydym yn cyflawni hyn drwy gael disgwyliadau realistig yn seiliedig ar hanes ac anghenion yr unigolyn. Mae asesiad cychwynnol gan ein partner Bryn y Deryn, yn ogystal â'n hasesiadau parhaus o anghenion emosiynol, cymdeithasol ac academaidd, yn gwneud y paratoadau hyn yn bosibl.
AMCANION
Amcan craidd y prosiect Cynnwys Disgyblion yw cynnig ystod eang o brofiadau heriol, addysgol a chymdeithasol sy'n caniatáu i gyfranogwyr gael eu clywed. Mae'r profiadau hyn yn ddiogel, cefnogol ac anfygythiol, ac wedi’u dylunio i hyrwyddo perthnasoedd rhyngbersonol, meithrin hyder a chynwysoldeb.
Nod strwythur y rhaglen yw gweddu i anghenion unigol ei ddysgwyr, gan ddileu rhwystrau i ddatblygu potensial llawn unigolyn i fod yn ddysgwr gydol oes. Felly, dylid datblygu ymddygiad a datblygiad moesol priodol drwy gydol y prosiect.
Mae natur gynhwysol a meithrin hyder y prosiect yn golygu bod digon o gyfleoedd i gyflawni ac achredu yn cael eu darparu. Mae dathlu llwyddiant, sy'n hanfodol wrth annog pobl ifanc i gymryd rhan a myfyrio ar eu cynnydd, yn rhan allweddol o'r prosiect.
GWEITHGAREDDAU
Mae'r gweithgareddau canlynol yn rhan o'r Prosiect Cynnwys Disgyblion:
- Antur, celf a dylunio, gyrfaoedd, cynnwys y gymuned, astudiaethau cyfrifiadurol, cadwraeth, coginio, ymdopi â'r glasoed, llythrennedd emosiynol, cyflogaeth a hyfforddiant, yr amgylchedd, cymorth cyntaf, bwyta'n iach, hylendid, cerddoriaeth, gweithgareddau awyr agored, ffotograffiaeth, iechyd rhywiol / CRhB, ymwybyddiaeth gymdeithasol (meithrin perthynas), gweithgareddau chwaraeon: golff, pêl-droed, rygbi, nofio, sgwash, badminton, bocsio a hyfforddiant camddefnyddio sylweddau.
CYMWYSTERAU AC ACHREDU
- ABCh AQA
- Astudiaethau Galwedigaethol BTEC
- Gwobr Dug Caeredin
- Gwobr Arweinyddiaeth Chwaraeon