CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Tîm Cynnwys Actif

Amdanom ni

Y Tîm Cynnwys Actif (TCA) yw tîm cyfranogiad ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Y nod yw sicrhau ein bod yn estyn allan at gynifer o bobl ifanc â phosibl ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i'w lleisiau gael eu clywed, yn ogystal â chynnwys pobl ifanc o ran llywodraethiant gwasanaethau ieuenctid ehangach a sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o newidiadau a gweithredoedd a wneir yn sgil eu mewnbwn. Mae gan y tîm bwyslais arbennig ar Erthygl 12: 

'Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl ddynol i gael barn ac i'r barnau hyn fod o bwys. Mae’n nodi y dylai barn plant a phobl ifanc gael ei hystyried pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn sy’n effeithio arnynt ac na ddylid ei diystyru fel mater o drefn ar sail oedran. Mae’n dweud hefyd y dylai plant a phobl ifanc gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau da.’ 

Yn ychwanegol at hyn, byddwn hefyd yn cadw at Erthygl 13 ac yn sicrhau ein bod ni fel gweithwyr ieuenctid yn rhoi'r wybodaeth, y cymorth a'r Arweiniad diweddaraf a phriodol i'r holl bobl ifanc yr ydym yn dod ar eu traws i gynyddu eu mynediad at wybodaeth a chymorth i wneud dewisiadau/penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch y pethau sy'n bwysig iddynt. 

Erthygl 13: "Bydd gan y plentyn yr hawl i ryddid mynegiant; bydd yr hawl hon yn cynnwys rhyddid i geisio, derbyn a rhannu gwybodaeth a syniadau o bob math, waeth beth fo'r ffiniau, naill ai ar lafar, yn ysgrifenedig neu mewn print, ar ffurf celfyddyd, neu drwy unrhyw gyfryngau eraill o ddewis y plentyn" 

Er mwyn ceisio cyflawni hyn, mae'r TCA yn cynnal Projectau ac yn mabwysiadu'r dulliau a ddangosir isod: 

Rhaglen Ifanc 

· Comisiynwyr Ifanc - Mae tua 55 o bobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant ac wedi helpu gyda'r broses o gomisiynu gwerth dros 65 miliwn o bunnau o wasanaethau. 

· Cyfwelwyr Ifanc - Mae dros 100 o bobl ifanc wedi derbyn hyfforddiant ac wedi cymryd rhan mewn dros 810 o gyfweliadau gyda Chyngor Caerdydd (adrannau amrywiol), Prifysgol De Cymru, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a llawer o rai eraill gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector. 

· Arolygwyr Ifanc - Mae dros 40 o bobl ifanc wedi cael eu hyfforddi a’u harolygu. 

· Ymchwilwyr Ifanc - Bu 12 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn ymchwil ynghylch y cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol. 

· Arweinwyr Ifanc – yn cael ei ddatblygu'n fewnol gyda gwasanaethau ieuenctid ar hyn o bryd. 

‘Dw i'n Dweud 

Rhaglen addysgol, a gyflwynir mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, sy'n ymdrin â'r pynciau canlynol: 

· Hawliau a Chyfranogiad Plant 

· Llais y Disgybl (e.e. cynghorau ysgol, trafodaethau, cyfweliadau â staff, gwerthuso staff, gwerthuso’r ysgol) 

· Democratiaeth – Cyfranogiad Ieuenctid 

· Democratiaeth – Prosesau Democrataidd y Deyrnas Gyfunol 

Yn ogystal, at hyn rydym ar hyn o bryd yn gweithio o fewn y gwasanaethau ieuenctid ehangach gyda phobl ifanc yn cyflwyno cyfranogiad ac yn creu cyfleoedd pellach i bobl ifanc fod yn aelodau gweithgar o'r gymuned. Ein nod hefyd yw creu cyfleoedd i grwpiau ehangach o bobl ifanc fod yn rhan o benderfyniadau a newidiadau strategol. 

Safonau Cyfranogiad 

Mae TCA yn cefnogi gwasanaethau ieuenctid ehangach i ymgymryd â'r marc barcud ar gyfer safonau cyfranogiad: 

· Cymorth, arweiniad a monitro gan staff 

· Cydgysylltu arolygiadau ieuenctid 

Hyfforddiant 

Mae TCA yn darparu hyfforddiant ar hyn o bryd o fewn y gwasanaethau ieuenctid: 

· Hawliau a chyfranogiad plant – hyfforddi'r hyfforddwr ‘Dw i’n Dweud 

· Hyfforddi'r hyfforddwr ym mhob agwedd ar y Rhaglen Ifanc – Darperir o fewn ein gwasanaeth ac i bartneriaid. 

· Hyfforddiant pwrpasol a nodwyd gan weithwyr proffesiynol a phobl ifanc – wedi'i gynllunio a'i gyflwyno i gyd-fynd â bylchau dysgwyr o ran cyfranogiad ac ymgysylltiad. 

· Hyfforddiant ar ddemocratiaeth a grwpiau cymunedol – datblygu ar gyfer staff a phobl ifanc. 

Strategaethau 

· Gwaith allgymorth. 

· Partneriaeth fewnol a chydweithio. 

· Gwaith partneriaeth allanol. 

· Addysg Anffurfiol. 

· Ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn 

· Projectau / gweithdai – Cyfleoedd ar gyfer datblygiadau a sgiliau mewn cymunedau. 

· Ymgyngoriadau – sgyrsiau ystyrlon gyda phobl ifanc. 

· Hyfforddiant – Gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc 

· Cydweithio gyda Chyngor Ieuenctid Caerdydd a grwpiau cymunedol lleol.

Os hoffech wybod mwy am beth rydyn ni’n ei gynnig, neu os ydych naill ai'n weithiwr proffesiynol neu'n berson ifanc sydd eisiau cymryd rhan, mae ein manylion cyswllt isod.

 

Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.