Diogelu
YPSafeguarding - Widget (Welsh)

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Lleoliadau Myfyrwyr

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o leoliadau cyffrous ac amrywiol i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau Gwaith Ieuenctid a Chymunedol o Lefel 2 hyd at Lefel 7.  Mae'r holl leoliadau wedi'u strwythuro o amgylch y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac maent yn bodloni gofynion y cwrs perthnasol. 

Cynigir cyfleoedd lleoli ar draws holl Dimau'r Gwasanaeth Ieuenctid.  Anogir lleoliad ar ffurf carwsél i alluogi myfyrwyr i gael profiad mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid, gan ddefnyddio gwahanol fathau o ddarpariaeth gwaith ieuenctid gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc.   

Mae pob lleoliad wedi'i deilwra i'r myfyriwr unigol, a darperir cymorth ar ffurf mentora a goruchwylio drwy gydol y lleoliad.  Mae'r amgylchedd cefnogol a meithringar hwn yn annog dadansoddi beirniadol, myfyrio a datblygiad personol pob myfyriwr.

Ym mhob lleoliad, bydd myfyrwyr yn profi'r heriau o ddydd i ddydd o ddod yn weithiwr ieuenctid effeithiol mewn lleoliad cymunedol. Byddant yn cael dealltwriaeth o logisteg weithredol rheoli darpariaeth, gan gynnwys canolfan ieuenctid, darpariaeth gynhwysol neu dîm gwaith ieuenctid arbenigol.  Bydd pob myfyriwr yn cael profiad o weithio o fewn tîm staff a chyflwyno rhaglen ddeinamig o weithgareddau i bobl ifanc, gyda'r nod o gynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol sy'n hyrwyddo sgiliau bywyd, perthnasoedd iach a mynegiant a datblygiad personol yn eu cymuned/darpariaeth.  Anogir myfyrwyr i ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i alluogi pobl ifanc i archwilio eu rhwystrau unigol i ymgysylltu a/neu ddatblygu. 

Mae'r gweithgarwch presennol wedi'i gyfyngu i ymgysylltu ar-lein, gwaith ieuenctid ar y stryd/teithiau lles lleol, sesiynau 1-1 wedi'u cynllunio a datblygu darpariaeth grŵp bach rheoledig yn y gymuned.  Mae timau bellach yn datblygu prosiectau/sesiynau cyffrous ac arloesol i gynnwys pobl ifanc mewn ffyrdd newydd e.e. clybiau ieuenctid a chyfryngau cymdeithasol ar-lein.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymrwymo i weithio gyda'r nos bob wythnos. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb yn y cymorth i bobl ifanc. I fyfyrwyr ar lefel uwch, mae cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu/creu prosiectau gyda phobl ifanc, yn ogystal â gwerthuso cynnydd grŵp/unigol gyda'r nod o lywio ymarfer yn y dyfodol.

Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.