Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu
Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o rwydwaith o wasanaethau sy'n ceisio cefnogi pobl ifanc wrth iddynt bontio i’w bywyd fel oedolion. Mae'r rhwydwaith ehangach hwn yn cynnwys Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Ehangach. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys: gwasanaethau addysg, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau gyrfaoedd a chyflogaeth, gwasanaethau chwaraeon a hamdden yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector eraill. Darperir rhywfaint o gymorth Gwasanaethau Ieuenctid gan wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach yng Nghaerdydd.
Mae rhan hon y wefan wedi'i chynllunio i gynnig gwybodaeth, cymorth ac arweiniad gan asiantaethau partner sy'n cynnig gwasanaethau arbenigol yn eu meysydd dethol. Os caiff pobl ifanc eu hysbysu'n briodol, gallant, yn eu tro, wneud penderfyniadau gwybodus ar faterion sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r holl sefydliadau y cyfeirir atynt yn rai credadwy ac rydym yn sicrhau ein bod yn gwirio'r dolenni'n rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch gyrchu cymorth yn effeithiol. Nid ni sy’n rhedeg y gwasanaethau hyn, os oes unrhyw faterion yn codi, cysylltwch â'r sefydliad. Os ydych yn sefydliad a hoffech gael eich cynnwys yn yr adran hon, cysylltwch â ni drwy e-bost Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae gennym lawer o ganolfannau ieuenctid ledled Caerdydd. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r un iawn i chi lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel i gael hwyl a chymdeithasu gyda'ch ffrindiau, a chreu rhai newydd.
ArchwilioMae gan bob person ifanc hawliau: Rydym ni, fel Cyngor sy’n cynrychioli pobl 11-25 oed, yn eirioli dros newid cadarnhaol a hawliau plant ledled y ddinas.
ArchwilioThe Voice of Young People on Safeguarding
Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!
Mae rhaglen Dug Caeredin yn gyfle gwych i wthio eich hun, ennill sgiliau newydd a datblygu hobïau a diddordebau newydd..
ArchwilioRydym yn darparu Grantiau Arloesi Ieuenctid i'n partneriaid i ddarparu Gwaith Ieuenctid mewn cymunedau.
Archwilio