Diogelu
YPSafeguarding - Widget (Welsh)

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Amdanom ni

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i wella datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol drwy gynnig cyfleoedd, gweithgareddau, profiadau, cymorth gwybodaeth ac arweiniad sy'n galluogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial unigryw. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnig cynnig cyffredinol ac ymyrraeth wedi'i thargedu.

Dysgu Fwy

Cardiff Branding

Amdanom ni

Rydym yn cynnig cymorth un-i-un i bobl ifanc 16-25 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, mae'r Prosiect Mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 yn brosiect hirsefydlog a llwyddiannus a ariennir gan Teuluoedd yn Gyntaf sy'n cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd. Nod y tîm yw targedu pobl ifanc ddi-waith ac economaidd anweithgar, 16 + oed, o bob rhan o Gaerdydd. Maent yn cynnig dull wedi'i deilwra sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n ceisio helpu i bennu a dileu rhwystrau personol.  Mae hyn yn galluogi pobl ifanc i barhau i ymgysylltu'n barhaus ag addysg, hyfforddiant neu'r farchnad lafur gyflogedig. Mae ein tîm yn weithwyr Ieuenctid a Chymunedol cymwys, sy'n gweithio'n agos gyda phobl ifanc ac asiantaethau partner. Rydym yn cynnig gwasanaeth atgyfeirio am ddim i oresgyn y rhwystrau y gall pobl ifanc eu hwynebu, a'u cefnogi i gael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

'Mae’r broses Mentora Ieuenctid wedi helpu i ddatblygu fy hyder yn aruthrol drwy ymgymryd â heriau newydd fel dysgu gyrru, gwneud cais i fynd i’r coleg gyda'r uchelgais o fod yn nyrs. Rwyf wedi bod yn rhan o'r holl benderfyniadau ac mae nhw hefyd wedi fy helpu i wneud penderfyniadau, ac wedi bod yn agored ac yn onest. (Person ifanc)

 

 

Dull Mentoriaid Ieuenctid

 Mae'r broses Mentoriaid Ieuenctid wedi’i seilio ar berthnasoedd sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd, a ffurfir drwy ymgysylltu gwirfoddol. Mae pob mentor yn mabwysiadu dull anfeirniadol a thrylwyr sy'n annog pobl ifanc i gyfrannu at eu nodau a'u dyheadau personol a gwneud penderfyniadau allweddol arnynt.  Mae ein dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn caniatáu i unigolion sy'n barod ar gyfer addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ynghyd â'r rhai sydd bellaf i ffwrdd, gael y cymorth priodol.

Sut y gall Mentoriaid Ôl-16 helpu

Nod Mentoriaid Ieuenctid Ôl-16 yw gwrando, cefnogi a sefydlu cynlluniau gweithredu personol a fydd yn galluogi pobl ifanc i gyflawni eu huchelgeisiau addysgol, hyfforddiant neu yrfaol.

Gall Mentor Ieuenctid helpu pobl ifanc i:

  • Sicrhau mwy o eglurder a dealltwriaeth o addysg cyflogaeth neu hyfforddiant a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
  • Nodi sgiliau a galluoedd unigol.
  • Dileu'r rhwystrau i unrhyw nodau a dyheadau addysg cyflogaeth neu hyfforddiant yn y dyfodol.
  • Creu atebion personol i broblemau a nodwyd, gyda chymorth.
  • Gwneud eich dewisiadau addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Nodi cyrsiau addysg neu hyfforddiant addas.
  • Cael mynediad at Gwricwla Ôl-16 / sesiynau grŵp pwrpasol yn seiliedig ar anghenion a nodwyd.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau i wella sgiliau neu weithio tuag at achrediad.
  • Cysylltu â Gwasanaethau Ieuenctid ehangach.
  • Cael gafael ar y gwasanaethau angenrheidiol.
  • Dod o hyd i gyfleoedd priodol.
  • Creu a thrawsnewid cynlluniau'n weithredoedd ac, yn bwysicaf oll, llwyddiant.

Bydd unrhyw berson ifanc sy'n cael ei atgyfeirio a'i dderbyn yn llwyddiannus i'r Gwasanaeth Ôl-16 yn cael Mentor Ieuenctid Ôl-16 cymwys a phrofiadol, a bydd yn cyfarfod ag ef yn rheolaidd ar sail un-i-un. 

'Roedd e (Mentora Ieuenctid)... yn ddefnyddiol iawn i siarad am fy mhroblemau.  Cefais lawer o help i gael arian budd-daliadau.  Rwy'n teimlo'n fwy hyderus ac rwy'n meddwl am fy nyfodol mewn ffordd fwy cadarnhaol' (Person Ifanc)

 Os hoffech gysylltu â'n tîm, gallwch ddod o hyd i'n cyfryngau cymdeithasol, e-bost a'n rhif cyswllt isod. 

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig mynediad agored tair noson yr wythnos i’r canolfannau ieuenctid, 44 wythnos o'r flwyddyn, ar draws y ddinas i pobl ifanc rhwn 11 a 25 mlwydd oed.  Mae Canolfannau Ieuenctid yn fan ble gall pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau mewn amgylchedd diogel. Bydd gan bobl ifanc fynediad i'n tîm o Weithwyr Ieuenctid a fydd yn cefnogi datblygiad cymdeithasol, addysgol ac emosiynol pobl ifanc. 

Mae cyfleoedd dysgu anffurfiol, gwybodaeth ac arweiniad ar gael i bobl ifanc ynghylch ystod eang o faterion. Mae hyn yn galluogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am ddewisiadau bywyd a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. 

Edrychwch ar fwy o wybodaeth am bob Canolfan Ieuenctid drwy glicio ar y dolenni.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed gymryd rhan mewn rhaglenni a phrosiectau ar draws dinas Caerdydd. Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a rhaglenni addysgol yn ein Canolfannau ar draws y ddinas ac mae rhywbeth i bawb; os ydych chi eisiau cymryd rhan neu eisiau ymlacio a chael hwyl gyda ffrindiau, dyma’r lle i fod.

Rydym hefyd yn darparu rhaglenni pwrpasol sy'n galluogi pobl ifanc i ddatblygu neu gynyddu sgiliau sydd ganddynt, sy'n allweddol wrth ddatblygu hyder, cymhelliant, datrys problemau, gwaith tîm, sicrhau y caiff eu llais ei glywed, cynllunio gweithredu a gosod nodau a fydd oll yn gwella eich CV neu geisiadau am gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol.

Canolfannau Ieuenctid

Lle i Fynd.

Mae gennym lawer o ganolfannau ieuenctid ledled Caerdydd. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r un iawn i chi lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel i gael hwyl a chymdeithasu gyda'ch ffrindiau, a chreu rhai newydd.

Archwilio
Canolfannau Ieuenctid

Llais Ieuenctid

Cyngor Ieuenctid Caerdydd

Mae gan bob person ifanc hawliau: Rydym ni, fel Cyngor sy’n cynrychioli pobl 11-25 oed, yn eirioli dros newid cadarnhaol a hawliau plant ledled y ddinas.

Archwilio
Llais Ieuenctid
Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Cardiff Branding 2

Dug Caeredin

Dysgwch sgiliau newydd, rhowch hwb i'ch CV!

Mae rhaglen Dug Caeredin yn gyfle gwych i wthio eich hun, ennill sgiliau newydd a datblygu hobïau a diddordebau newydd..

Archwilio
Dug Caeredin

Grantiau Arloesi Ieuenctid

Eisiau gwybod am weithgareddau yn eich ardal chi?

Rydym yn darparu Grantiau Arloesi Ieuenctid i'n partneriaid i ddarparu Gwaith Ieuenctid mewn cymunedau.

Archwilio
Grantiau Arloesi Ieuenctid
Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube