Diogelu
YPSafeguarding - Widget (Welsh)

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Pwy Ydym Ni

Mae'r wefan hon yn ceisio cefnogi pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr proffesiynol ehangach yn y gwasanaeth cymorth ieuenctid yn ogystal â rhieni ac aelodau ehangach o'r gymuned gyda throsolwg o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd a'i bartneriaid gwasanaeth cymorth ieuenctid ehangach. Byddwn yn cynhyrchu cynnwys gyda phobl ifanc a phartneriaid sy'n ceisio hysbysu, cefnogi ac addysgu pobl ifanc mewn materion sy'n effeithio ar eu bywydau.

Amdanom

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn rhan o adran Addysg Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i ddatblygu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol drwy amrywiaeth o gyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau mewn cymunedau, profiadau cyfranogol, yn ogystal â gwybodaeth, cymorth ac arweiniad sy'n galluogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial unigryw. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnig cymorth cyffredinol ac, i'r rhai y nodwyd eu bod yn agored i niwed, cymorth wedi'i dargedu.

Mae ein gweithwyr ieuenctid a'n gweithwyr cymorth ieuenctid yn weithlu cofrestredig sydd â chymwysterau cenedlaethol. Gwneud cais i gofrestru (ewc.cymru). Rydym yn gyfeillgar ac yn agos atoch, a'n diben yw helpu a gweithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau. Gallwn gefnogi pobl ifanc gyda gwybodaeth, arweiniad, cyfleoedd newydd a thrafodaethau ynghylch materion a allai fod yn effeithio arnynt hwy neu eu cyfoedion. Mae hawliau plant a CCUHP wedi'u hymgorffori yn yr holl waith a wnawn, gydag ymgynghoriadau rheolaidd yn digwydd yn barhaus. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i bartneriaeth ag UNICEF i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n dda i blant.

Mae ein hymgysylltiad â phobl ifanc yn digwydd mewn canolfannau ieuenctid a chlybiau ieuenctid, ar y stryd lle mae pobl ifanc, yn ogystal ag mewn ysgolion a chymunedau. Rydym yn dechrau ymgysylltu mwy mewn mannau digidol, a gallwch ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol amrywiol i gael gwybod mwy. Ni allwn gyflawni gwaith gyda phobl ifanc yn unig, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio a phartneriaethau mewn cymunedau ledled Caerdydd. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy.

CWRDD AR TIM

Cardiff Branding

Beth yw Gwaith Ieuenctid?

Lle i fynd, rhywun bydd yn wrando!

Nod Gwaith Ieuenctid yw galluogi pobl ifanc i ddatblygu yn eu cyfanrwydd, gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, i’w galluogi i ddatblygu eu llais, dylanwad a lle mewn cymdeithas ac i gyrraedd eu llawn botensial. Dyma'r diffiniad o waith ieuenctid a amlinellir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol .

Dysgu Fwy

Fodd bynnag, mae Gwaith Ieuenctid yn fwy nag ystod o ddatganiadau neu ymrwymiadau. Mae Gwaith Ieuenctid yn seiliedig ar y gallu i ddatblygu a chynnal perthynas waith gyda phobl ifanc. Y man cychwyn sylfaenol yw'r berthynas wirfoddol a sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gyd-gynhyrchu unrhyw waith a wneir gyda nhw. Mae Egwyddorion a dibenion Gwaith Ieuenctid yn amlinellu pum colofn, addysgiadol, grymusol, cyfranogol, cynhwysol a mynegiannol, mae'r rhain yn cael eu hegluro ymhellach yn y ddolen ganlynol

https://cwyvs.org.uk/

Yn bwysicaf oll, mae Gwaith Ieuenctid yn bethau gwahanol i bobl ifanc gwahanol. Mae rhai pobl ifanc yn ei ddefnyddio i gael hwyl a chwrdd â ffrindiau. Mae rhai pobl ifanc yn ei ddefnyddio i gael gafael ar gymorth ac arweiniad gwybodaeth benodol, a phobl ifanc eraill i ddysgu sgiliau newydd, mae croeso i bob person ifanc.

Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.