Mae Pride Cymru yn elusen a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n gweithio i gael gwared ar wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hil, crefydd neu allu.
Mae Glitter Cymru yn grŵp sy’n cwrdd yn gymdeithasol yng Nghaerdydd ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd a Phobl o Leiafrifoedd Ethnig (BAME) sy'n Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT+).
Prosiect tair blynedd sydd â’r nod o wella’r ddealltwriaeth o hunaniaethau traws* a rhywedd anneuaidd ymhlith gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ledled Cymru.
Mae Switchboard yn wasanaeth clust i wrando cyfrinachol ar gyfer cymunedau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Rydym yn cynnig cymorth drwy ein llinell gymorth, e-bost a gwasanaeth negeseua gwib, o 10am-10pm bob dydd.
Grŵp ieuenctid LHDTC+ 52 wythnos y flwyddyn. Amgylchedd cyfeillgar a diogel sy’n eich galluogi i ddod yn ffrindiau gyda phobl o’r un anian, wrth gymdeithasu, cymryd rhan mewn chwaraeon, celf a chrefft, cymryd rhan mewn gweithdai ac weithiau teithiau ac arhosiadau preswyl.
We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.