Diogelu
YPSafeguarding - Widget (Welsh)

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn galluogi pobl i chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas, cyfrannu at newid cymdeithasol cadarnhaol, a chefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. Bydd ein cyfleoedd gwirfoddoli yn eich galluogi i gael profiadau mewn lleoliadau Canolfannau Ieuenctid, gan weithio gydag amrywiaeth o bobl ifanc. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i weithio tuag at gymwysterau Gwaith Ieuenctid achrededig.  Os hoffech wybod mwy am wirfoddoli, cysylltwch ag Uwch Swyddog Ieuenctid yn eich canolfan ddewis i gael gwybod mwy (cliciwch yma). 

Arweinwyr Ifanc

Mae ein rhaglen Arweinwyr Ifanc yn caniatáu i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a chyfrifoldebau pwysig. Mae'r sgiliau a'r cyfrifoldebau hyn yn angenrheidiol gan fod arweinwyr ifanc yn chwarae rhan bwysig yn y gwasanaeth rydym yn ei gynnig i bobl ifanc.

Mae dod yn arweinydd ifanc yn fraint; ymrwymo eich hun i'r rôl hon yn benderfyniad pwysig i'w wneud. Er mwyn cael rôl arweinydd ifanc y gwaith ieuenctid, bydd angen i chi:

  • fod â diddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc
  • bod ag amser i’w gynnig
  • bod yn anfeirniadol

Fel arweinydd ifanc, mae'n debygol y byddwch yn gwneud amrywiaeth o swyddi fel:

  • rhoi cymorth ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid
  • gweithio fel rhan o'r tîm gwaith ieuenctid
  • cyfrannu tuag at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau gwaith ieuenctid

I gael gwybod mwy, cysylltwch ag Uwch Swyddog Ieuenctid yn eich ardal (cliciwch yma).

Gwirfoddoli ehangach

Mae sawl ffordd o roi o'ch amser i helpu eraill – o gael paned o de gyda chymydog oedrannus, i helpu yn eich ardal leol, neu wneud ymrwymiad rheolaidd i wirfoddoli gydag elusen neu grŵp cymunedol. Gall ein staff eich cefnogi i nodi lleoliad addas drwy nodi eich sgiliau, yn ogystal â gweithio gyda grwpiau gwirfoddoli a sefydliadau'r trydydd sector. Gall gwirfoddoli eich galluogi i gwrdd â phobl newydd, ennill sgiliau newydd a chael amrywiaeth o brofiadau newydd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

 

Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.