Diogelu
YPSafeguarding - Widget (Welsh)

Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu

Clico yma - I edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!

CYS Web Banner Logo2
English
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube

Gwaith Stryd

Amdanom ni

Mae ein Tîm Stryd Caerdydd yn gweithio gyda phobl ifanc (11-25 oed) yn y lleoedd y maen nhw, sy’n cynnwys corneli strydoedd, parciau ac ardaloedd sy’n boblogaidd ar gyfer cymdeithasu ymysg pobl ifanc Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ymyriadau sy'n cynnwys cyfeirio ac atgyfeirio at sefydliadau sy'n cynnig cymorth arbenigol ac unigol. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid eraill i gyflwyno prosiectau a gweithgareddau mewn lleoliadau cymunedol. Mae'r berthynas â phobl ifanc yn seiliedig ar berthnasoedd gwirfoddol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, parch a dealltwriaeth o beth yw  Gweithiwr Ieuenctid stryd. Mae gan bob aelod o staff gymwysterau lleol neu genedlaethol mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.

Rydyn ni hefyd yn cynnig darpariaeth ieuenctid symudol sy'n ymweld â sawl rhan o'r ddinas. Mae hyn yn cynnig gwybodaeth, cymorth ac arweiniad, yn ogystal â phrosiectau a gweithgareddau sy'n berthnasol i bobl ifanc. Mae'r Bws hefyd yn cefnogi'r gwasanaeth ieuenctid ehangach, partneriaid cymunedol a gwasanaethau eraill awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i bobl ifanc a chymunedau ledled y ddinas. 

Gyda phwy byddwn ni’n gweithio

Mae gweithwyr stryd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid sy'n cynnwys: Sefydliad Dinas Caerdydd, Mudiadau Gwirfoddol a’r trydydd sector, Iechyd y Cyhoedd, Gwasanaethau Digartrefedd, Heddlu De Cymru a SCCHau Cymdogaethau, Gyrfa Cymru, Gwasanaethau Mentora Ieuenctid, YMCA, Switched On, Lles Emosiynol, y Ganolfan Waith, Porth Teuluoedd a gwasanaethau ehangach y cyngor. 

Nodau gweithwyr stryd yw darparu rhwydweithiau cymorth creadigol, digonol, priodol ac effeithiol i bobl ifanc ymgysylltu â nhw, yn ogystal â chynnig profiadau wedi'u cyfoethogi a pherthnasoedd cefnogol. Drwy berthnasoedd gwirfoddol, eu nod yw annog pobl ifanc i ddysgu, datblygu a thyfu. 

Mathau Gweithredu

Ein horiau gweithredu cyffredinol o fewn cymunedau yw 6-9pm dydd Llun a dydd Mercher. Fodd bynnag, rydyn ni’n mabwysiadu dull hyblyg i fodloni anghenion cymunedau. Ym mhob ardal mae dau Weithiwr Ieuenctid wrth law i siarad â phobl ifanc a chynnig cymorth. 

Llaneirwg: 6-9pm

Sblot a Thremorfa: 6-9pm

Trelái a Chaerau: 6-9pm

Butetown, Glan-yr-afon a Grangetown:   6-9pm

Ar hyn o bryd rydyn ni hefyd yn gweithredu yng nghanol y ddinas ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Sadwrn: 1-4pm

Sut i gael gafael ar ein cefnogaeth

Gellir adnabod gweithwyr stryd mewn cymunedau drwy eu gwisg brand (mae llun i'w weld isod). Rydym yn hawdd mynd aton ni, yn gyfeillgar ac yn hapus i gynnig cymorth. Bydd yr holl gymorth a gynigir yn cael ei gyflawni’n gyfrinachol oni bai ein bod yn teimlo eich bod chi neu eraill mewn perygl o niwed. Os hoffech gysylltu, cysylltwch â ni naill ai drwy gyfryngau cymdeithasol, e-bost neu dros y ffôn. Mae manylion isod. 

CYSYLLTWCH Â NI:

EIN CYFRYNGAU CYMDEITHASOL:

Screenshot 2021 11 05 At 101500

The Voice of Young People on Safeguarding

Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!

Exit
English
Cysylltwch â ni:
Tel: 02920 615260
CardiffYouthService@Cardiff.gov.uk
Facebook Insta Twitter Youtube Youtube
We use cookies

We use cookies on our website. Some of them are essential for the operation of the site, while others help us to improve this site and the user experience (tracking cookies). You can decide for yourself whether you want to allow cookies or not. Please note that if you reject them, you may not be able to use all the functionalities of the site.