Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu
Edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!
Edrychwch ar ein 6 Nod i Gaerdydd isod!
Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i http://cardiffyouthservices.wales/cy/ a http://cardiffyouthservices.wales/.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Os na allwch weld y map ar ein tudalen 'cysylltu â ni', ffoniwch ni neu e-bostiwch ni i gael cyfarwyddiadau.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni clyw, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Dyma ein manylion cyswllt:
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Rydym yn gweithio ar sicrhau bod ein gwefan mor hygyrch â phosibl. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw fan sydd angen ei wella yn eich barn chi, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Baich anghymesur
Llywio a chael gafael ar wybodaeth
Nid oes modd sgipio'r cynnwys sy’n ailadrodd ym mhrif bennawd y dudalen (er enghraifft, opsiwn 'sgipio i’r prif gynnwys').
Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud yn anos gweld y cynnwys.
Nid yw'n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o'r cynnwys orgyffwrdd.
Offer a thrafodion rhyngweithiol
Mae’n anodd llywio drwy rai o'n ffurflenni rhyngweithiol gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig Er enghraifft, oherwydd nad oes tagiau ‘label’ ar rai rheolaethau ar ffurflenni.
Mae ein ffurflenni'n cael eu hadeiladu a'u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti a'u gwneud i edrych fel ein gwefan.
Rydym wedi asesu'r gost o ddatrys y problemau gyda llywio a chael gafael ar wybodaeth, a chydag offer a thrafodion rhyngweithiol. Credwn y byddai gwneud hynny'n awr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall pan fydd y contract cyflenwi yn barod i’w adnewyddu.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF ac eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sydd â gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni ar ffurf Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Fideo byw:
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Ein nod yw diweddaru a gwella'r wefan hon yn gyson, ac mae hyn yn cynnwys sicrhau ein bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am safonau a chanllawiau hygyrchedd.
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw fannau o'n gwefan nad ydynt yn bodloni canllawiau mynediad, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Mae gwirfoddoli yn galluogi pobl i chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas, cyfrannu at newid cymdeithasol cadarnhaol, a chefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. Bydd ein cyfleoedd gwirfoddoli yn eich galluogi i gael profiadau mewn lleoliadau Canolfannau Ieuenctid, gan weithio gydag amrywiaeth o bobl ifanc. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i weithio tuag at gymwysterau Gwaith Ieuenctid achrededig. Os hoffech wybod mwy am wirfoddoli, cysylltwch ag Uwch Swyddog Ieuenctid yn eich canolfan ddewis i gael gwybod mwy (cliciwch yma).
Arweinwyr Ifanc
Mae ein rhaglen Arweinwyr Ifanc yn caniatáu i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a chyfrifoldebau pwysig. Mae'r sgiliau a'r cyfrifoldebau hyn yn angenrheidiol gan fod arweinwyr ifanc yn chwarae rhan bwysig yn y gwasanaeth rydym yn ei gynnig i bobl ifanc.
Mae dod yn arweinydd ifanc yn fraint; ymrwymo eich hun i'r rôl hon yn benderfyniad pwysig i'w wneud. Er mwyn cael rôl arweinydd ifanc y gwaith ieuenctid, bydd angen i chi:
Fel arweinydd ifanc, mae'n debygol y byddwch yn gwneud amrywiaeth o swyddi fel:
I gael gwybod mwy, cysylltwch ag Uwch Swyddog Ieuenctid yn eich ardal (cliciwch yma).
Gwirfoddoli ehangach
Mae sawl ffordd o roi o'ch amser i helpu eraill – o gael paned o de gyda chymydog oedrannus, i helpu yn eich ardal leol, neu wneud ymrwymiad rheolaidd i wirfoddoli gydag elusen neu grŵp cymunedol. Gall ein staff eich cefnogi i nodi lleoliad addas drwy nodi eich sgiliau, yn ogystal â gweithio gyda grwpiau gwirfoddoli a sefydliadau'r trydydd sector. Gall gwirfoddoli eich galluogi i gwrdd â phobl newydd, ennill sgiliau newydd a chael amrywiaeth o brofiadau newydd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o leoliadau cyffrous ac amrywiol i fyfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau Gwaith Ieuenctid a Chymunedol o Lefel 2 hyd at Lefel 7. Mae'r holl leoliadau wedi'u strwythuro o amgylch y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac maent yn bodloni gofynion y cwrs perthnasol.
Cynigir cyfleoedd lleoli ar draws holl Dimau'r Gwasanaeth Ieuenctid. Anogir lleoliad ar ffurf carwsél i alluogi myfyrwyr i gael profiad mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith ieuenctid, gan ddefnyddio gwahanol fathau o ddarpariaeth gwaith ieuenctid gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc.
Mae pob lleoliad wedi'i deilwra i'r myfyriwr unigol, a darperir cymorth ar ffurf mentora a goruchwylio drwy gydol y lleoliad. Mae'r amgylchedd cefnogol a meithringar hwn yn annog dadansoddi beirniadol, myfyrio a datblygiad personol pob myfyriwr.
Ym mhob lleoliad, bydd myfyrwyr yn profi'r heriau o ddydd i ddydd o ddod yn weithiwr ieuenctid effeithiol mewn lleoliad cymunedol. Byddant yn cael dealltwriaeth o logisteg weithredol rheoli darpariaeth, gan gynnwys canolfan ieuenctid, darpariaeth gynhwysol neu dîm gwaith ieuenctid arbenigol. Bydd pob myfyriwr yn cael profiad o weithio o fewn tîm staff a chyflwyno rhaglen ddeinamig o weithgareddau i bobl ifanc, gyda'r nod o gynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol sy'n hyrwyddo sgiliau bywyd, perthnasoedd iach a mynegiant a datblygiad personol yn eu cymuned/darpariaeth. Anogir myfyrwyr i ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i alluogi pobl ifanc i archwilio eu rhwystrau unigol i ymgysylltu a/neu ddatblygu.
Mae'r gweithgarwch presennol wedi'i gyfyngu i ymgysylltu ar-lein, gwaith ieuenctid ar y stryd/teithiau lles lleol, sesiynau 1-1 wedi'u cynllunio a datblygu darpariaeth grŵp bach rheoledig yn y gymuned. Mae timau bellach yn datblygu prosiectau/sesiynau cyffrous ac arloesol i gynnwys pobl ifanc mewn ffyrdd newydd e.e. clybiau ieuenctid a chyfryngau cymdeithasol ar-lein.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymrwymo i weithio gyda'r nos bob wythnos. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb yn y cymorth i bobl ifanc. I fyfyrwyr ar lefel uwch, mae cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu/creu prosiectau gyda phobl ifanc, yn ogystal â gwerthuso cynnydd grŵp/unigol gyda'r nod o lywio ymarfer yn y dyfodol.
Mae gennym lawer o ganolfannau ieuenctid ledled Caerdydd. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r un iawn i chi lle rydych chi'n teimlo'n ddiogel i gael hwyl a chymdeithasu gyda'ch ffrindiau, a chreu rhai newydd.
ArchwilioMae gan bob person ifanc hawliau: Rydym ni, fel Cyngor sy’n cynrychioli pobl 11-25 oed, yn eirioli dros newid cadarnhaol a hawliau plant ledled y ddinas.
ArchwilioThe Voice of Young People on Safeguarding
Click Here - to take a look at our 6 Goals for Cardiff!
Mae rhaglen Dug Caeredin yn gyfle gwych i wthio eich hun, ennill sgiliau newydd a datblygu hobïau a diddordebau newydd..
ArchwilioRydym yn darparu Grantiau Arloesi Ieuenctid i'n partneriaid i ddarparu Gwaith Ieuenctid mewn cymunedau.
Archwilio