Back to Cwrdd â'r Tudalen Tîm
Wayne Palfrey E / Ef
Uwch Weithiwr Cymorth Ieuenctid
Enw tîm: Llaneirwg - Dwyrain Caerdydd ac Ôl-16
Ffon: 07773487925
Ebost: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Pryd a sut wnaethoch chi ymwneud â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd?
Roeddwn yn aelod o Ganolfan Ieuenctid Llaneirwg, yn mynd bob wythnos gyda fy ffrindiau i chwarae pêl-droed a dechreuais wirfoddoli yn 1998 yn 18 oed. Dechreuais i weithio yno ym mis Ionawr 1999 yn gwneud gwaith sesiynol 1 i 1 gyda pherson ifanc ag anawsterau dysgu.
Ieithoedd Rwy'n Siarad
Ieithoedd Rwy'n Siarad: Saesneg
Hoff beth am weithio i Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd
Rwy'n caru Gwaith Ieuenctid ac yn mwynhau cael y cyfle i rannu fy mhrofiadau bywyd a rhoi cyngor ac arweiniad i bobl ifanc i'w helpu i ddod y gorau y gallant fod.
Cof gorau o weithio i Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd
Ymhlith fy atgofion gorau o weithio i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd mae rhannu profiadau anturus anhygoel gyda phobl ifanc, gan gynnwys teithiau gwersylla, arforgampau, Caiacio a theithiau cyfnewid tramor. A gweithgareddau antur a chyrsiau preswyl yng ngorllewin Cymru.
HOFF FWYD
Fy hoff fwyd yn bendant yw bwyd y môr. Dwi'n arbennig o hoff o Gimwch, cranc a cherrig gleision.
HOFF FISCUIT
Digestives - mae’n ymddangos yn eithaf plaen a diflas, ond mewn gwirionedd dyma'r fisged orau yn y byd.
HOBIAU A DIDDORDEBAU
Dwi wedi bod yn mwynhau chwarae Golff ers rhai blynyddoedd bellach ac yn hoffi chwarae mor aml ag y galla i. Dwi'n ffan mawr o chwaraeon ac wrth fy modd yn gwylio pêl-droed, golff, Bocsio ac UFC. Rwy’n wyllt am chwaraeon ac yn mwynhau gwylio'r rhan fwyaf o chwaraeon gan gynnwys pêl-droed a golff.
MODEL RÔL
O safbwynt fy ngwaith y ddwy fodel rôl fwyaf oedd fy hen fos a'm mentor Gill Price a hefyd fy ffrind annwyl Cyril Payne, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am fy arwain drwy fy mlynyddoedd iau. Ond fy model rôl mwyaf yw fy Nhad. Mae e wedi fy helpu i ddod y dyn yr ydw i heddiw.
SWYDD GYNTAF
Fy swydd gyntaf oedd gweithio yn Panasonic ar linell gynhyrchu pan oeddwn i tua 17 oed.